Canllawiau

Cwestiynau Cyffredin ynghylch rheoleiddio cyrff dyfarnu a chymwysterau yng Nghymru.

Daeth sefydlu Cymwysterau Cymru yn 2015 â nifer o newidiadau i’r cyrff dyfarnu rydym yn eu rheoleiddio.

Er bod y trefniadau pontio y darparodd ein deddfwriaeth ar eu cyfer yn golygu bod y trawsnewidiad o gael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru i’w rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru yn syml, i raddau helaeth, ceir rhai gwahaniaethau. Rydym yn datblygu strategaeth reoleiddiol i’n symud ymlaen dros y blynyddoedd sydd i ddod ond, yn y cyfamser, rydym yn awyddus i fod mor glir â phosibl ynghylch sut rydym yn rheoleiddio a’r hyn y mae’n ei olygu i gyrff dyfarnu. Dros amser, byddwn yn datblygu set lawn o ‘Gwestiynau Cyffredin’ er mwyn i bob corff dyfarnu allu gweld yr atebion i gwestiynau sy’n cael eu codi. I ddechrau’r broses hon, coladodd Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) nifer o gwestiynau gan ei aelodau, ac mae’n falch gennym roi’r atebion i’r rhain isod. Byddwn yn ychwanegu atynt wrth i ragor o gwestiynau ddod i’r amlwg: dylech gyfeirio unrhyw rai o’r rhain at ymholiadau@cymwysteraucymru.org

Defnyddio logo Cymwysterau Cymru ar dystysgrifau

  • C – A allwch chi gynghori pa logo y dylem ei ddefnyddio ar dystysgrifau newydd/dyblyg ar gyfer ymgeiswyr a enillodd gymwysterau llawn cyn sefydlu Cymwysterau Cymru? A ddylem ddefnyddio logo Cymwysterau Cymru neu a ddylem gadw stoc o dystysgrifau sy’n defnyddio logo Llywodraeth Cymru at y dibenion hyn?

  • A – Lle mae tystysgrif newydd yn cael ei rhoi ar gyfer cymhwyster a ddyfarnwyd yng Nghymru cyn 21 Medi 2015, gellir defnyddio logo Cymwysterau Cymru ar y dystysgrif, cyn belled â bod y corff dyfarnu yn cael ei gydnabod gan Cymwysterau Cymru ar hyn o bryd.

  • C – A allwn ddefnyddio logo Cymwysterau Cymru ar dystysgrifau unedau?

  • A – Lle mae tystysgrifau unedau yn cael eu dyfarnu, dylech ddefnyddio logo Cymwysterau Cymru ar y tystysgrifau hyn, cyn belled â bod yr unedau’n deillio o gymwysterau yr ydych yn cael eich cydnabod yng Nghymru ar eu cyfer (hynny yw, unrhyw gymwysterau rydych yn eu dyfarnu yng Nghymru nad ydych wedi eu heithrio rhag eich cydnabyddiaeth cyn 21 Medi 2015, neu yr ydych wedi eu hildio wedi hynny, neu sydd â ‘gradd’ yn y teitl).

  • C – Pryd gallwn ddefnyddio logo Cymwysterau Cymru ar dystysgrifau sy’n cael eu rhoi i ddysgwyr y tu allan i Gymru, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu rhoi mewn marchnadoedd rhyngwladol?

  • A – Dylai logos Cymwysterau Cymru gael eu defnyddio ar dystysgrifau ar gyfer unrhyw gymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru (a gellir eu defnyddio ar dystysgrifau’r un cymhwyster lle caiff ei ddyfarnu y tu allan i Gymru). 

  • C – Ble gallaf ddod o hyd i’r rheolau ynghylch defnyddio logos ar dystysgrifau?

  • A – Mae amod D9.1 yn cynnwys gofynion tystysgrif penodol ar gyfer cymwysterau ‘Cymeradwy’ pan gânt eu dyfarnu y tu allan i Gymru.

     

    Defnyddio logos rheoleiddwyr ar dystysgrifau

Camau Rheoleiddio

  • C – Pryd fydd Cymwysterau Cymru yn egluro ei bolisi ar osod dirwyon ariannol ar gyrff dyfarnu?

  • A – Hyd nes i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheoliadau yn ymwneud â phennu swm y cosbau ariannol [‘dirwyon’], ni allwn eu gosod. Mae cynllunio ar gyfer ymgynghori ar y mater hwn yn yr arfaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau yn ymwneud â hyn.  

  • C – Pa gyfeiriad e-bost dylai corff dyfarnu ei ddefnyddio i roi gwybod i Cymwysterau Cymru am ddigwyddiad?

  • A – Dylai cyrff dyfarnu anfon neges e-bost at incidents@qualificationswales.org i roi gwybod am ddigwyddiadau. 

  • C – Os yw corff dyfarnu yn cynnig cymhwyster sy’n cael ei reoleiddio gan Cymwysterau Cymru i ddysgwyr mewn gwledydd eraill (Lloegr, yn ogystal â rhanbarthau rhyngwladol), a fydd Cymwysterau Cymru yn cymryd camau rheoleiddio os bydd problem yn codi mewn unrhyw un o’r gwledydd hynny?

  • A – Gall Cymwysterau Cymru ond gymryd camau mewn perthynas â dyfarnu cymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, os bydd problem sy’n codi mewn gwlad arall yn arwain, neu’n debygol o arwain, at ‘effaith niweidiol’ ar ddysgwyr sy’n ymgymryd â’r cymhwyster yng Nghymru, yma gallem ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu gymryd camau gweithredu. Er enghraifft, pe byddai papur cwestiynau diogel – a fyddai’n cael ei sefyll gan ddysgwyr yng Nghymru – yn cael ei ‘ddatgelu’ mewn gwlad arall, gallem ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu gymryd camau gweithredu i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn sefyll papur diogel. Fodd bynnag, pe byddai dysgwr mewn gwlad arall yn dymuno cwyno bod y cymhwyster, yr ymgymerwyd ag ef y tu allan i Gymru, wedi ei raddio’n anghywir, yna ni fyddai gennym gyfrifoldeb i fodloni anghenion y dysgwr hwnnw. Pe byddai’n mater yn cael ei dynnu at ein sylw ac yn peri i ni boeni bod dysgwyr yng Nghymru mewn perygl o gael eu graddio’n anghywir yna, eto, gallem gymryd camau gweithredu.

Systemau TG/gweinyddu

  • C – Ar hyn o bryd, mae Cofrestr Ofqual a Chronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru (DAQW) yn cynnwys yr ôl-ddodiad ‘(FfCCh)’ yn nheitlau’r cymwysterau. Mae Ofqual yn bwriadu darparu dull yn y Porth Sefydliadau Dyfarnu newydd a fydd yn darparu dull i sefydliadau dyfarnu ‘swmp-ddileu’ yr ôl-ddodiad hwn yn hawdd. A fydd DAQW (neu’r Cymwysterau yng Nghymru (QiW) newydd) yn tynnu’r teitlau diwygiedig hyn o’r Porth? Os na, a fydd Cymwysterau Cymru yn rhoi dull ar waith naill ai i dynnu’r ôl-ddodiaid hyn eu hunain, neu’n galluogi i gyrff dyfarnu newid teitlau’r cymwysterau heb lawer o effaith ar adnoddau?

  • A – Bydd Cymwysterau Cymru yn pennu dull i ddileu’r ôl-ddodiad FfCCh o deitlau – ni fydd disgwyl i gyrff dyfarnu newid teitlau’r cymwysterau o gwbl.

Materion rheoleiddiol

  • C – A fydd Cymwysterau Cymru yn parhau i’w gwneud yn ofynnol i ofynion FfCCh gael eu bodloni?

  • A – Mae Cymwysterau Cymru wedi cael gwared â gofynion y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau a’r ‘Rheoli gweithredu ar gyfer defnyddio’r term ‘NVQ’ yn nheitlau cymwysterau FfCCh Awst 2008’. Diweddarwyd yr Amodau Cydnabyddiaeth i ymgorffori newidiadau i deitlau cymwysterau, maint cymwysterau, lefel cymwysterau, manylebau cymwysterau, credydau a chydnabod dysgu blaenorol.

     

  • C – A fydd Cymwysterau Cymru yn mabwysiadu’r un ymagwedd tuag at TQT a chredydu ag a gyflwynwyd gan Ofqual yn ddiweddar?

  • A – Bydd Cymwysterau Cymru yn cyflwyno’r cysyniad o Gyfanswm Amser y Cymhwyster (TQT) er mwyn sicrhau cysondeb rhwng data cymwysterau yng Nghymru a Lloegr a lleihau’r baich rheoleiddiol ar gyrff dyfarnu. Ymhelaethwyd ar amod E7.3 i gyflwyno gofyniad i gofnodi a darparu tystiolaeth er mwn pennu Cyfanswm Amser y Cymhwyster, yn debyg i’r gofyniad cyfwerth a wnaed gan Ofqual.

 

  • C – A gaiff y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) ei fabwysiadu yng Nghymru?

  • A – Ni fydd Cymwysterau Cymru yn mabwysiadu terminoleg y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig a bydd yn parhau i alinio â’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru wedi cael gwared â gofynion y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau a’r ‘Rheoli gweithredu ar gyfer defnyddio’r term ‘NVQ’ yn nheitlau cymwysterau FfCCh Awst 2008’. Diweddarwyd yr Amodau Cydnabyddiaeth i ymgorffori newidiadau i deitlau cymwysterau, maint cymwysterau, lefel cymwysterau, manylebau cymwysterau, credydau a chydnabod dysgu blaenorol.

 

  • C – A fydd Cymwysterau Cymru yn mynnu bod y cymwysterau galwedigaethol y mae’n eu rheoleiddio wedi eu seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn unig?

  • A – Er bod Cymwysterau Cymru yn cydnabod gwerth Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol wrth lunio cymwysterau galwedigaethol, ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw feini prawf dynodi neu gymeradwyo ar gyfer cymwysterau sy’n mynnu bod rhaid iddynt fod yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae ein strategaeth ar gyfer adolygu a diwygio cymwysterau galwedigaethol yn canolbwyntio ar raglen o Adolygiadau Sector. Yn dilyn pob Adolygiad Sector, gallwn ystyried p’un a ydym am ddatblygu meini prawf cymeradwyo neu ddynodi ar gyfer cymwysterau yn y sector hwnnw ai peidio: gallai’r rhain gynnwys gofyniad i gysylltu â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol lle maent yn bodoli, ond caiff penderfyniad ar wahân ei wneud ym mhob achos. Yn y cyfamser, gall cyrff dyfarnu barhau i gyflwyno cymwysterau galwedigaethol i’w dynodi lle maent yn bodloni’r meini prawf dynodi sydd i’w gweld yma: http://qualificationswales.org/media/1641/qiw-guidance-awarding-bodies-welsh.pdf

     

  • C – Pa fath o dystiolaeth ategol ar gyfer cymhwyster fydd Cymwysterau Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu ei darparu?

  • A – Cyfeiriwch at y canllaw cyflym ar greu a chyflwyno cymhwyster unigol. Mae Atodiad 3 y canllaw hwn yn amlinellu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan Cymwysterau Cymru i ategu cymhwyster: http://qualificationswales.org/media/1641/qiw-guidance-awarding-bodies-welsh.pdf

     

  • C – A fydd Cymwysterau Cymru yn gweithredu cronfa o unedau ar y cyd neu a fydd yn ofynnol i gyrff dyfarnu ddatblygu eu hunedau eu hunain, yn unol â’r system newydd sy’n cael ei gweithredu gan Ofqual?

  • A – Nid oes unrhyw fwriad i Cymwysterau Cymru gadw cronfa o unedau ar y cyd.

 

  • C – A yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu cydweithio â rheoleiddwyr eraill?

  • A – Rydym yn adolygu’r ffyrdd y gallwn gydweithio’n briodol â rheoleiddwyr cymwysterau eraill, a byddwn yn cyhoeddi unrhyw gytundeb rhyngom, lle y bo’n briodol. Rydym eisoes wedi cytuno a chyhoeddi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ag Ofqual. Mae Cymwysterau Cymru ond yn gyfrifol am gymwysterau sy’n cael eu dyfarnu i ddysgwyr sydd wedi ymgymryd â’r mwyafrif o’u hasesiadau yng Nghymru.

     

  • C – Lle mae canolfan yn cynnig cymwysterau Awdurdod Cymwysterau’r Alban a chymwysterau a gydnabyddir gan Cymwysterau Cymru, a fu unrhyw drafodaeth rhwng y rheoleiddwyr ynghylch sut gallant rannu gwybodaeth a data er mwyn osgoi rhoi gormod o faich ar ganolfan?

  • A – Rydym yn adolygu’r ffyrdd y gallwn gydweithio’n briodol â rheoleiddwyr cymwysterau eraill er mwyn cyflawni ein rhwymedigaeth i fod yn gymesur yn ein gwaith. Mae rhannu gwybodaeth yn effeithiol yn un ffordd y gallwn gyflawni’r rhwymedigaeth honno.

Amodau Cyffredinol

  • C – A allwch egluro sut mae Cymwysterau Cymru yn dehongli amod A1.3? A fydd yn cael ei gymhwyso ar lefel cyrff dyfarnu neu ar sail cymwysterau unigol?

  • A – Bydd Cymwysterau Cymru yn dehongli amod A1.3 ar lefel cyrff dyfarnu yn hytrach nag ar sail cymwysterau unigol.

Cyllid

  • C – A fydd angen cais ar wahân am gyllid wrth ddatblygu darpariaeth sy’n cael ei rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru, neu a fydd y system QiW newydd yn cysylltu’n uniongyrchol ag asiantaethau ariannu?

  • A – Mae cymwysterau a gymeradwywyd neu a ddynodwyd gennym yn gymwys i’w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus i ddysgwyr dan 19 oed. Mae’r cymwysterau hyn wedi eu rhestru ar QiW. Gallai Llywodraeth Cymru neu asiantaethau ariannu eraill bennu gofynion neu gyfyngiadau ariannu pellach: ni fydd y rhain yn cael eu nodi ar QiW.

Adolygiadau Sector o Gymwysterau Galwedigaethol

  • C – Pa sectorau fydd yn cael eu hadolygu gan Cymwysterau Cymru gan ddefnyddio’r dull adolygu sector?

  • A –Adolygiadau Sector yw’r dull allweddol ar gyfer adolygu a diwygio cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Y sector cyntaf sy’n cael ei ystyried yw Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y sectorau nesaf – a fydd yn dechrau’n ddiweddarach yn 2016 – fydd Adeiladu a TG. Rydym yn cysylltu â Llywodraeth Cymru wrth i ni ystyried trefn adolygiadau sector yn y dyfodol, a’n nod yw cyhoeddi rhagolwg ac amserlen dros dro ar gyfer adolygiadau sector dilynol yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.