Ein rôl
Cwmpas a natur rheoleiddio
Caiff yr holl gymwysterau a gynigir gan gorff dyfarnu eu rheoleiddio – oni bai iddynt gael eu heithrio rhag cael eu rheoleiddio, neu am fod corff dyfarnu wedi ildio cydnabyddiaeth ar gyfer cymhwyster neu fath o gymhwyster yn dilyn hynny. Rydym yn categoreiddio cymwysterau rheoleiddiedig fel cymwysterau 'cymeradwy', cymwysterau 'dynodedig' neu gymwysterau 'a reoleiddir fel arall’.
Model ar gyfer rheoleiddio
- Mae cyrff dyfarnu yn ceisio cydnabyddiaeth drwy fodloni meini prawf penodol a bennir gennym.
- Er mwyn cydnabod corff dyfarnu, rhaid iddo gydymffurfio â'r Amodau Cydnabyddiaeth.
Dyma ein prif ddogfen rheoleiddio, a chaiff ei hategu gan ddogfennau rheoleiddio ychwanegol - Rydym yn monitro cydymffurfiaeth yn erbyn yr Amodau Cydnabyddiaeth
- Rydym yn defnyddio ein pwerau i orfodi a rhoi cosbau pan fydd cyrff dyfarnu yn methu â chydymffurfio â'r Amodau Cydnabyddiaeth
- Pan fo'n briodol, rydym yn ymyrryd er mwyn sicrhau bod y system yn diwallu anghenion dysgwyr.
Gweithgarwch rheoleiddio
Fel rhan o'n gwaith, rydym yn gwneud y canlynol:
- Pennu gofynion rheoleiddio drwy ein dogfennau rheoleiddio;
- Arfer rheolaeth dros fynediad i'r farchnad a reoleiddir er mwyn sicrhau bod gan sefydliadau yr arbenigedd, y trefniadau llywodraethu, y mesurau rheoli a'r gallu ariannol i gyflwyno cymwysterau dilys;
- Blaenoriaethu ein gwaith mewn ffordd sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio data, gwybodaeth ac arbenigedd;
- Monitro cymwysterau rheoleiddiedig a chydymffurfiaeth cyrff dyfarnu cydnabyddedig, a chynnal archwiliadau wedi'u targedu;
- Monitro effeithiolrwydd y system gymwysterau yng Nghymru;
- Pennu a chynnal safonau priodol ar gyfer cymwysterau, gan weithio gyda rheoleiddwyr cymwysterau eraill er mwyn sicrhau cysondeb ledled y DU;
- Ymchwilio i achosion posibl o dorri ein rheolau a chymryd camau gorfodi priodol yn ôl yr angen;
- Defnyddio tystiolaeth ymchwil i lywio ein penderfyniadau, camau gweithredu a chyngor;
- Cynnal adolygiadau o'r sector ac adolygiadau thematig;
- Ymgynghori ar newidiadau posibl i'r system gymwysterau;
- Comisiynu cymwysterau drwy broses gystadleuol agored er mwyn diwallu anghenion y farchnad;
- Cynnal cronfa ddata QiW: ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am gymwysterau cymeradwy a dynodedig a ddyfernir yng Nghymru;
- Rhoi grantiau i gefnogi'r system gymwysterau, gan gynnwys cymorth i asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ein dull gweithredu yn cael ei esbonio'n fanylach yn ein Fframwaith a Dull Rheoleiddio, sef dogfen sy'n crynhoi'r fframwaith a'r dull presennol o reoleiddio cymwysterau yng Nghymru. (Mae'r ddogfen hon yn cynnwys dolenni i ddogfennau rheoleiddio eraill sy'n fwy manwl.)
Dull rheoleiddio
Rydym yn sefydliad sy'n edrych tuag at allan, felly rydym yn ymgysylltu, yn cyfathrebu ac yn cydweithredu er mwyn atgyfnerthu ein gallu i feithrin hyder y cyhoedd yn y system gymwysterau yng Nghymru ac i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
- Rydym yn gwahodd dysgwyr i roi eu safbwyntiau, yn gwrando arnynt ac yn ymateb iddynt;
- Rydym yn gwrando ar adborth, safbwyntiau a phryderon rhanddeiliaid ac yn ymateb iddynt yn briodol;
- Mae'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau rheoleiddio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gymesur ag effaith bosibl y camau gweithredu rheoleiddio;
- Mae ein hymgynghoriadau yn dryloyw ac ystyrlon;
- Rydym yn cydweithredu ac yn defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd rhanddeiliaid fel sy'n briodol;
- Rydym yn ceisio meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid allweddol;
- Mae ein gwaith cyfathrebu'n glir, yn amserol, yn llawn gwybodaeth ac wedi'i dargedu; rydym yn adolygu effaith ein gwaith cyfathrebu ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella'r ffordd rydym yn gwneud hynny;
- Rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill lle bynnag y bo'n bosibl, gan ystyried yr effaith bosibl ar gyrff dyfarnu a reoleiddir gan fwy nag un rheoleiddiwr;
- Rydym yn cynnal asesiadau effaith rheoleiddio os ydynt yn briodol er mwyn asesu'r gost, y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â pholisi neu gam gweithredu.
Mae ein gwerthoedd yn sail i'n gwaith:
- Cydweithredol o ran ein ffordd o weithio
- Ystyriol o ran ein dulliau gweithredu
- Cadarnhaol o ran ein hagwedd
- Dysgu o brofiad a chan eraill