Adroddiad Blynyddol 2018
Croeso i'n pedwerydd Adroddiad Blynyddol, sy'n disgrifio ein gwaith o fis Medi 2018 hyd at fis Awst 2019.
Mae'r adroddiad yn esbonio sut rydym wedi gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr a'r system addysg yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ann Evans, (Cadeirydd Cymwysterau Cymru - Medi 2015 - Medi 2019)
“Yn ystod y 12 mis diwethaf mae degau o filoedd o ddysgwyr yng Nghymru wedi gwneud cynnydd drwy’r system gymwysterau, gan ennill cymwysterau sy’n effeithio’n uniongyrchol are eu dyfodol. Mae dysgwyr yng Nghymru wrth wraidd popeth a wna Cymwysterau Cymru.
“Yn sail i’r gwaith hwn mae ein hymrwymiaid i gynllunio’r cymwysterau gorau posibl i Gymru, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn i’n dysgwyr allu mwynhau’r dewis y maen nhw’n ei haeddu.”
Philip Blaker (Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru)
“Chwaraewn ran bwysig yn system addysg Cymru – gan sicrhau tegwch i ddysgwyr ddoe, heddiw ac yfory, a magu hyder yn y system addysg. Drwy ein gwaith, anelwn at wneud y peth cywir am y rhesymau cywir, gan roi blaenoriaeth i anghenion dysgwyr”
Yn ystod y flwyddyn rydym wedi:
- dechrau gwaith ar ffurfio cymwysterau’r dyfodol ar gyfer y cwricwlwm newydd;
- magu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ehangach o’r Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru;
- parhau ein haddolygiadau sector, gan gyhoeddi Digidol I’r Dyfodol, ein hadroddiad ar y sector TGCh, a dechrau gwaith ar ein hadolygiad o’r sector peirianneg, gweithgynhyrchu uwch ac ynni;
- gwneud cynnydd da yn ein rhaglenni uchelgeisiol i ddatblygu cyfresi newydd o gymwyusterau ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal plant, ac adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- cynnal adolygiad cynhwysfawr o gymwysterau diogelwch bwyd;
- cyhoeddi ymchwil ar hyder y cyhoedd yn y system gymwysterau.