Adroddiad Blynyddol 2018
Croeso i'n trydydd Adroddiad Blynyddol, sy'n disgrifio ein gwaith o fis Medi 2017 hyd at fis Awst 2018.
Mae'r adroddiad yn esbonio sut rydym wedi gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr a'r system addysg yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ann Evans (Cadeirydd, Cymwysterau Cymru):
“Mae anghenion dysgwyr yng Nghymru a hyder parhaus yn y system gymwysterau yng Nghymru wrth wraidd popeth a wnawn. Yn Cymwysterau Cymru rydym yn cymryd yr ymrwymiad hwn o ddifrif. Gwyddom y bydd newid sylweddol yn y dyfodol... Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r newid hwn ac at symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf gydag egni, ymroddiad a hyder.”
Philip Blaker (Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru):
“Eleni, canolbwyntiodd ein gwaith ar newidiadau i gymwysterau. Fel sefydliad annibynnol ac ystwyth wedi'i lywio gan bobl dalentog, rydym wedi gwthio ffiniau newydd er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau arloesol.”
Dyma ein cyflawniadau allweddol:
- Gwnaethom ymchwilio i gofrestru'n gynnar ar gyfer arholiadau a mabwysiadwyd ein hargymhellion gan y llywodraeth, gan arwain at newid o ran mesurau perfformiad ysgolion.
- Gwnaethom wario mwy na £1 miliwn ar grantiau er mwyn helpu i roi cymwysterau newydd ar waith a darparu cyfieithiadau Cymraeg ar gyfer deunyddiau cymorth.
- Aeth dros 450 o bobl i 32 o ddigwyddiadau ledled Cymru er mwyn ein helpu i gyflwyno 19 o gymwysterau newydd ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
- Rydym wedi bod yn edrych ar y cymwysterau sydd ar gael yn y sectorau TG ac Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, a beth yw'r ffordd orau o'u datblygu ar gyfer y dyfodol.
- Rydym yn edrych i'r dyfodol ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru.
- Rydym wedi ymchwilio i Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, gan ddod i'r casgliad ei fod yn gymhwyster arloesol a gwerth chweil. Rydym wedi bod yn rhan o ymgyrch wybodaeth i godi ymwybyddiaeth o'r Fagloriaeth, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith y flwyddyn nesaf.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma (PDF).