Adroddiad Blynyddol 2022
Croeso i'n seithfed Adroddiad Blynyddol sy'n disgrifio ein gwaith o fis Medi 2021 i fis Awst 2022.
Roedd y cyfnod adrodd ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-2022 yn un o heriau parhaus i'r system addysg, oherwydd effaith pandemig Covid-19 ar sefydlogrwydd y system ac ar allu dysgwyr i ymgysylltu â dysgu.
Mae'r adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at rywfaint o waith Cymwysterau Cymru yn ystod y cyfnod yma, yn cynnwys:
- Monitro a goruchwylio cyflwyno'n ddiogel y gyfres arholiadau gyntaf ers tair blynedd;
- Paratoi ar gyfer ei ymgynghoriad mwyaf erioed, i ddiwygio TGAU yng Nghymru;
- Dechrau gweithio i nodi pa gymwysterau eraill y dylai fod ar gael fel rhan o gynnig cydlynol, cynhwysol i'r rhai rhwng 14-16 oed;
- Parhau i fonitro cymwysterau galwedigaethol newydd wedi’u Gwneud-i-Gymru, mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig;
- Cynhyrchu adnoddau newydd i gefnogi cyrff dyfarnu i wella argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg;
- Comisiynu cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd a fydd yn dechrau cael ei addysgu o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma