Hoffwn wneud datgeliad chwythu'r chwiban
Os ydych yn gweithio i ysgol, coleg, canolfan hyfforddi neu gorff dyfarnu, gallwch ddod ar draws camwedd mewn perthynas â chymwysterau ac asesiadau. Dywedwch wrth rywun am eich pryderon da chi.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad â'u cyflogwr i ddechrau, ond nid yw pawb yn teimlo y gallant wneud hyn.
Mae Cymwysterau Cymru yn gorff rhagnodedig ar gyfer chwythu'r chwiban, o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998. Os bydd gweithiwr yn rhoi gwybod i ni am fathau penodol o gamwedd er lles y cyhoedd, caiff ei ddiogelu gan y gyfraith ac ni ddylai gael ei drin yn annheg na'i ddiswyddo.
I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n cael ei ddiffinio fel "gweithiwr" a pha fath o ddatgeliadau a ddiogelir, gweler https://www.gov.uk/whistleblowing. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn cael eich diogelu fel chwythwr chwiban, efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol annibynnol cyn cysylltu â ni.
Os ydych yn gweithio i ysgol, coleg neu ganolfan hyfforddi
Os nad ydych am godi pryderon gyda'ch cyflogwr, dylech ddweud wrth y corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster. Dylai'rcorff dyfarnu ymchwilio i unrhyw broblemau a allai effeithio ar ddysgwyr, safonau neu hyder y cyhoedd yng Nghymru, a dweud wrthym amdanynt.
Os ydych yn gweithio i gorff dyfarnu
Rydym yn eich annog i ddweud wrthym os oes gennych unrhyw bryderon am gorff dyfarnu. Gallwn ystyried datgeliadau am y canlynol:
- y gwaith o gynllunio, asesu, dyfarnu neu ardystio cymwysterau rheoleiddiedig;
- methiant corff dyfarnu i gydymffurfio â'n gofynion, yn cynnwys camymddwyn, camweinyddu, gwrthdaro buddiannau a rhoi gwybod am ddigwyddiadau.
Ni allwn dderbyn datgeliadau am y canlynol:
- cymhwyster nad yw'n cael ei asesu yng Nghymru neu faterion nad ydynt yn effeithio ar ddysgwyr yng Nghymru;
- pethau a ddigwyddodd fwy na 12 mis yn ôl.
Er mwyn gwneud datgeliad chwythu'r chwiban i Cymwysterau Cymru, cwblhewch y ffurflen isod, a'i hanfon i report@qualificationswales.org
Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y byddwn yn delio â'ch datgeliad chwythu'r chwiban ar gael yn ein Polisi Rheoleiddiol ar Chwythu'r Chwiban.
Ffurflen datgeliad chwythu'r chwiban