Rwyf am wneud datgeliad chwythu'r chwiban am rywun sy’n cael ei gyflogi gan Cymwysterau Cymru
Fel gweision cyhoeddus, rydym yn gosod y safonau uchaf i ni’n hunain ac ar gyfer y gwasanaethau rydym yn eu darparu nid yn unig o ran yr hyn rydym yn ei wneud, ond hefyd sut rydym yn ei wneud.
Disgwylir i ni weithio gydag uniondeb, gonestrwydd a gwrthrychedd, a bod yn ddiduedd ac yn foesegol. Os ydych yn amau nad yw'r safonau hyn yn cael eu bodloni, rydym yn eich annog i ddweud wrthym am eich pryderon.
I wneud datgeliad chwythu'r chwiban am rywun sy’n cael ei gyflogi gan Cymwysterau Cymru, amlinellwch eich pryderon a'i anfon at corporategovernance@qualificationswales.org
Os oes gennych gwestiwn am unrhyw ran o'r broses, cysylltwch â’r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol ar 01633 373296.