Nid ydym yn rheoleiddio ansawdd yr addysgu, nac ymddygiad staff unigol
Dylech gysylltu â'r ysgol, coleg neu ganolfan hyfforddi i godi'ch cwyn i ddechrau.
Os byddwch yn dal i fod yn anhapus â'r ffordd mae'r ysgol, coleg neu ganolfan hyfforddi
wedi delio â'ch cwyn, gall fod yn ddefnyddiol i chi gysylltu ag:
- Estyn, yr arolygydd annibynnol dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, os yw eich cwyn am ansawdd neu safon yr addysgu; neu
- Cyngor y Gweithlu Addysg, rheoleiddiwr annibynnol staff addysgu a chymorth, os yw eich cwyn am ymddygiad athro neu aelod o'r staff yn yr ysgol/coleg.