Buddiannau
Gwyliau y flwyddyn
Mae ein cyflogeion yn cael 30 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn seiliedig ar swydd llawn amser), 8 diwrnod ar gyfer gwyliau banc ac mae'r swyddfa'n cau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd (yn seiliedig ar swydd llawn amser).
Tanysgrifiadau Proffesiynol
Er mwyn dangos ein hymrwymiad i statws proffesiynol ein cyflogeion rydym yn talu eu tanysgrifiadau proffesiynol os ydynt yn berthnasol i'w rôl.
Gweithio hyblyg
Rydym yn gwerthfawrogi cydbwysedd bywyd a gwaith a byddwn yn ystyried pob cais i weithio'n hyblyg ac yn ei gymeradwyo os yw'r patrwm gweithio yn addas i'r busnes. Rydym hefyd yn gweithredu cynllun gweithio hyblyg i gyflogeion hyd at ac yn cynnwys Band 6.
Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae cyflogeion yn gymwys i fod yn aelodau o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae'n gynllun buddiannau diffiniedig sy'n cael ei gyfrifo ar sail cyfartaledd gyrfa.
CSSC Sports and Leisure
Mae ein cyflogeion yn gymwys i ymuno â CSSC Sports and Leisure sy'n costio £3.95 y mis (telir yn unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol).
Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Ein nod yw cefnogi ein cyflogeion drwy gynnig cyfnodau a thâl mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir a mabwysiadu hael. Ein nod yw galluogi'r cyflogai i gydbwyso bywyd gwaith a bywyd teuluol.
Iechyd a Lles
Ein nod yw hyrwyddo ac annog lles yn y gwaith. Er mwyn cefnogi pob agwedd ar les, gall ein cyflogeion fanteisio ar y canlynol:
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig gwasanaethau megis cymorth emosiynol, cwnsela a mynediad at gynghorwyr arbenigol.
Darpariaeth Gofal Llygaid sy'n caniatáu i gyflogeion gael prawf llygaid am ddim ynghyd â dewis cyfyngedig o fframiau.
Iechyd Galwedigaethol sy'n rhoi cyngor i ni ar faterion cyn lleoli, ffitrwydd ar gyfer gweithio i gyflogeion sydd â phroblemau neu bryderon iechyd, a chymorth a chyngor dychwelyd i'r gwaith. Mae ein darparwr hefyd yn dod i'n safle ar gais i gynnal gwiriadau iechyd da i gyflogeion.