Swyddi gwag cyfredol
Cyfleoedd recriwtio yn Cymwysterau Cymru.
Caiff ein holl swyddi gwag eu hysbysebu yma ac ar Twitter. Gofynnwn yn garedig i chi beidio ag anfon CV's ar hap oherwydd nad oes modd i ni eu cadw ar ffeil.
Ar hyn o bryd mae pob gweithiwr yn gweithio gartref yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
Pennaeth Cyfathrebu
Mae’r Pennaeth Cyfathrebu yn arwain datblygiad ein gweithgareddau cyfathrebu, gan gefnogi prif nodau Cymwysterau Cymru o sicrhau hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru.
Byddwch yn helpu i lunio a chynnal naratif allanol Cymwysterau Cymru, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu creadigol a dealltwriaeth gref o dirweddau addysgol, dinesig a gwleidyddol Cymru. Yn brofiadol wrth ddatblygu strategaethau a thactegau cyfathrebu, byddwch yn chwilio am gyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ymgysylltu'n gadarnhaol â chynulleidfaoedd allweddol, gan gynnwys dysgwyr, rhieni a gofalwyr, ysgolion, colegau a darparwyr dysgu eraill.
Bydd ein gweithwyr yn gweithio ar sail hybrid o fis Mehefin 2022. Mae hyn yn golygu mai’r ganolfan gytundebol yw ein swyddfa ym Mharc Imperial, Casnewydd, NP10 8AR, ond y gall gweithwyr weithio’n hyblyg gyda chydbwysedd rhwng y cartref a’r swyddfa.
Parhaol, llawn amser. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill, gan gynnwys gwaith Rhan Amser, Rhannu Swydd a secondiadau yn y cyfweliad.
Band 5 £51,380 - £61,440 y flwyddyn
Yn ogystal â chyflog, rydym yn cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a chau'r swyddfa am hyd at dri diwrnod dros y Nadolig), trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9 Mehefin 2022 – hanner dydd
Cyfweliadau: 23 a 24 Mehefin
Disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais.
Lawrlwythwch awgrymiadau ymgeisio.
Swyddog Polisi Rheoleiddio
Mae’r tîm Polisi yn gyfrifol am ddatblygu’r holl bolisïau a dulliau rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys ein Fframwaith a’n Dull Rheoleiddio cyffredinol sy’n nodi sut yr ydym yn anelu at reoleiddio cymwysterau yng Nghymru, a’r Amodau Cydnabod Safonol, sef y brif set o reolau a osodwn ar gyrff dyfarnu a gydnabyddir gennym.
Bydd y Swyddog Polisi Rheoleiddio, sy'n atebol i'r Pennaeth Polisi Rheoleiddio ac yn cefnogi'r Rheolwr Polisi Rheoleiddio, yn chwarae rôl allweddol ac ymarferol wrth adolygu, diwygio a datblygu ein dogfennau rheoleiddio. Mae’r rôl yn cynnwys gweithio ar brosiectau, ymchwilio, drafftio, gweithio ar ymgynghoriadau ac ymateb iddyn nhw, sichrau cyhoeddiadau o safon a gweithredu’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn.
Bydd ein gweithwyr yn gweithio ar sail hybrid o fis Mehefin 2022. Mae hyn yn golygu mai’r ganolfan gytundebol yw ein swyddfa ym Mharc Imperial, Casnewydd, NP10 8AR, ond y gall gweithwyr weithio’n hyblyg gyda chydbwysedd rhwng y cartref a’r swyddfa.
Parhaol, llawn amser. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill, gan gynnwys gwaith Rhan Amser, Rhannu Swydd a secondiadau yn y cyfweliad.
Band 3 – Ystod cyflog £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Yn ogystal â chyflog, rydym yn cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a chau'r swyddfa am hyd at dri diwrnod dros y Nadolig), trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27 Mai 2022– Canol dydd
Cyfweliadau: 8 Mehefin 2022
Disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais.
Lawrlwythwch awgrymiadau ymgeisio.