Cyfnod anarferol yn galw am benderfyniadau sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth

Persbectif Rhiant gan David Finney, tad Sam, dysgwr blwyddyn 11 mewn ysgol gyfun yn ne Cymru

 gan David Finney

Mae cerrig milltir yn bwysg iawn i rieni. Ydych chi’n cofio’r flwyddyn a hanner gyntaf pan roedd y llyfr coch a chanraddau’n hollbwysig? Dysgu sut i ddefnyddio poti, cerdded, nofio lled y pwll am y tro cyntaf? Cyffro dechrau darllen llyfrau Biff and Chip? Cannwyll eich llygad yn cael dechrau defnyddio beiro yn hytrach na phensil?

Yna daeth realaeth yr ysgol uwchradd. Fel rhieni, roedden ni’n poeni am setiau mathemateg, deall y system goleuadau traffig ar adroddiadau diwedd tymor, ffarwelio â nhw nid am drip diwrnod i Sŵ Bryste, ond i Awstria am drip sgïo wyth diwrnod.

Ac yng nghefn y meddwl o hyd, roedd TGAU.

Efallai ein bod ni’n euog o rianta fel hofrenyddion, neu ba bynnag label sy’n cael ei roi ar famau a thadau sy’n hofran yn bryderus dros siwrne addysgol eu plentyn, ond dechreuon ni drafod TGAU gyda ein mab Sam cyn gynted ag iddo ddechrau yn ei ysgol gyfun yn ne Cymru. Bob tro byddai’n cwyno am adolygu ar gyfer prawf mathemateg neu gwblhau aseiniad ysgrifennu creadigol, bydden ni’n ei atgoffa y byddai Sam Bl.11 yn ddiolchgar i Sam Bl.7 am ddechrau’n gynnar, er gwaetha’r rholio llygaid.

Ein ffocws oedd haf 2020, pan fyddai’r dewisiadau a gafodd eu gwneud yn gynt yn ei fywyd ysgol, yn cael eu gwireddu. Yn gam neu’n gymwys, cafodd sawl bargen ei tharo. Gwobrau am bob A ac A* roedden ni’n gwybod y byddai’n gallu eu hennill, yr addewid o 10 wythnos o hwyl ar ôl i’r cyfan ddod i ben, yr hwdi ‘na â’r label bychan oedd yn chwyddo ei bris 5 gwaith.

Feddylion ni ddim am eiliad na fyddai’n sefyll yr arholiadau hynny, y byddai 10 wythnos o hwyl yn cael eu cyfnewid am fisoedd o ynysu, ansicrwydd, penbleth a dryswch.

Yn gyntaf, caewyd yr ysgol. Roedd Sam yn sâl ar y diwrnod olaf, felly roedd yn ddiwedd arbennig o sydyn ar ei addysg orfodol. Doedd dim syniad ganddo mai ei wers olaf (Saesneg, un o’i ffefrynnau), fyddai’r un olaf. Chafodd e ddim ffarwelio â’i ffrindiau na’i athrawon nac ystyried mai dyna’r tro olaf iddo wisgo ei dei ysgol.

Chafodd e ddim hyd yn oed dathlu’r ffaith na fyddai’n rhaid iddo astudio ei gas bwnc fyth eto!

Dechreuon ni ddyfalu a fyddai TGAU yn cael eu cynnal yn hwyrach. Dwi’n cofio darganfod na fydden nhw ac eistedd yno fel teulu. Sut roedden ni’n teimlo? Dim rhyddhad na chyffro na siom. Dim ond sioc. Yna dechreuon ni ystyried sut y byddai ein mab a’r cannoedd o fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch eraill yn cael eu hasesu’n iawn ac yn deg, ac yn derbyn gradd.

Ystyrion ni hefyd – ac rydyn ni’n dal i wneud – a fydd dosbarth 2020 yn cael ei labelu am byth fel y myfyrwyr na safodd arholiadau ac a fyddai marc cwestiwn bythol yn gofyn a oedden nhw/oedden nhw ddim yn haeddu’r radd a ddyfarnwyd iddyn nhw.

Roedd ysgol Sam yn wych am gyfarthrebu gyda’i myfyrwyr, yn ein barn ni. Roedd hi’n deg, yn onest ac yn eglur, ac yn cydnabod ofn a phenbleth disgyblion a rhieni. Mae’n rhaid eu bod nhw wedi derbyn torreth o alwadau ffôn, ond penderfynon ni ymddiried y bydden nhw’n rhannu gwybodaeth pan allen nhw. Roedden nhw, fel ni, yn wynebu her na welwyd ei bath erioed.

Mae’r Cwestiynau Cyffredin a’r dogfennau dilynol gan CBAC a Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, wir wedi helpu. Mae gwybodaeth wedi bod yn bŵer, go iawn. Mae cael eu newyddion diweddaraf gan yr ysgol wedi bod yn ddefnyddiol wrth iddyn nhw drio ffeindio eu ffordd trwy broses ddryslyd. Mae’n rhaid canmol Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg hefyd; mae’n rhaid bod bod yn gyfrifol am fywydau ac addysg holl blant Cymru yng nghysgod pandemig wedi bod yn anodd iawn. Yn bersonol, dwi’n gwerthfawrogi ei pharodrwydd i ateb cwestiynau gan fyfyrwyr a rhieni yn fawr.

Does dim atebion perffaith i gwestiynau ynghylch asesiadau, graddio, addysgu gartref, ailagor ysgolion. Yn debyg i TGAU Llenyddiaeth Saesneg Sam, dehongli yn y ffordd orau bosibl, gan ddefnyddio’r dystiolaeth, ychwanegu gwerth, a chyfiawnhau eich barn sy’n bwysig.

Felly am nawr, rhaid aros. Mae ofn arnon ni, wrth gwrs. Beth mae trefn restrol yn ei olygu? Ydy hi’n ddibynnol ar faint mae athro yn hoffi rhywun? Beth os, fel Sam, nad oedd canlyniadau’r ffug arholiadau’n wych, yn ei achos ef, oherwydd salwch? A fydd ei waith cwrs, yr ymdrechodd mor galed ynddo, yn rhoi mantais iddo?

Rydyn ni fel teulu wedi penderfynu ymddiried yn athrawon Sam, a gobeithio y byddan nhw’n cydnabod yr hyn mae wedi ei gyflawni hyd yn hyn ac yn gweld ei botensial anhygoel. Beth arall allwn ni ei wneud? Nawr, dwi’n canolbwntio ar gadw ein teulu’n saff ac yn iach, yn diogelu eu hiechyd corfforol a meddyliol, ac yn gobeithio y bydd y rheiny sy’n gyfrifol am y dasg enfawr hon yn parhau i gyfathrebu’n eglur, yn gyson a gyda dealltwriaeth y bydd angen llawer iawn o gefnogaeth ar ddosbarth 2020 yn y dyfodol.

Yr amser hwn llynedd doedd dim yn bwysig ond adolygu Of Mice and Men, ac mae’n fy nharo bod y dyfyniad hwn o gampwaith Steinbeck o 1937 yn teimlo’n arbennig o berthnasol heddiw: ‘As happens sometimes, a moment settled and hovered and remained for much more than a moment. And sound stopped and movement stopped for much, much more than a moment…’

Dwi’n gobetihio y bydd y foment hon yn dod i ben cyn hir, er lles Sam a’i ffrindiau.

Cyhoeddwyd 14 Mai 2020