Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref - Rhagfyr) 2021 ar gyfer Cymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Dyddiad rhyddhau: Dydd Gwener 25 Chwefror, 2022
Y Cyfnod a drafodir:
Hydref - Rhagfyr 2021
Diweddariad nesaf: Mai (dros dro)
Pwyntiau Allweddol:
- Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data a allai fod wedi ei effeithio gan bandemig COVID-19.
- Nid yw'r datganiad hwn bellach yn cynnwys cymwysterau Bagloriaeth Cymru na’r Dystysgrif Her Sgiliau. Ceir rhagor o wybodaeth am y newid hwn yn y nodiadau cefndir, yn ogystal â gwybodaeth am sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar yr ystadegau hyn.
- Dyfarnwyd 38,000 o dystysgrifau yn chwarter 4 2021. Mae hwn yn ostyngiad o 8.9% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2020.
- Rhwng Ionawr 2021 a Rhagfyr 2021, dyfarnwyd 241,945 o dystysgrifau, cynnydd o 5.9% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol
- Rhwng Ch4 2020 a Ch4 2021 dim ond pump o'r pymtheg sector a welodd gynnydd mewn tystysgrifau. Roedd y cynnydd mwyaf mewn Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal.
- Rhwng Ch4 2020 a Ch4 2021 gwelwyd cynnydd mewn tystysgrifau mewn tair o’r deg lefel. Lefel 3 welodd y cynnydd mwyaf o ran nifer y tystysgrifau.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Cyfryngau
E-bost: wasg@cymwysteraucymru.org