Gweminar - Cymwys ar gyfer y dyfodol: canlyniadau'r ymgynghoriad a'r camau nesaf
Gwesteion: Emyr George & Oliver Stacey. Mae Cymwysterau Cymru wedi cwblhau'r cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal dros y ddwy flynedd nesaf.
Cynhaliwyd ein hymgynghoriad ar-lein rhwng 18 Tachwedd 2019 a 7 Chwefror 2020, gan ymgynghori ar sut y dylem ymdrin 'r gwaith o gytuno ar sut y dylai cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16 oed newid yn y dyfodol.
Yn ein hymgynghoriad, rydym yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer cymwysterau yn y dyfodol. Cynigiom set o egwyddorion arweiniol a ddylai lywio'r ystod o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn y dyfodol. Holasom hefyd am yr hyn a ddylai ddigwydd gyda TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau.
Nod y cynigion a'r penderfyniadau yw ategu ein gwaith o ailffurfio cymwysterau i gefnogi r cwricwlwm newydd i Gymru.
Darganfyddwch sut mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'n penderfyniadau yn cefnogi'r uchelgais hon drwy ymuno 'n gweminar.
I gofrestru cliciwch yma.
Bydd dolen i ddigwyddiad Live y t m yn dilyn 24 awr cyn y digwyddiad.