Mae Ansawdd yn Bwysig
Mae Cymwysterau Cymru, ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru, yn darparu nifer o ddigwyddiadau am ddim sy'n canolbwyntio'n fanwl ar ddatblygu gweithlu ar gyfer rheolwyr ansawdd, rheolwyr canolfannau ac aswirwyr ansawdd mewnol sy'n gweithio ym maes cymwysterau seiliedig ar gymhwysedd iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant a chwarae) ledled Cymru.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cynorthwyo datblygiad proffesiynol parhaus y gymuned sicrhau ansawdd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant a chwarae).
Mae'r rhain yn ddigwyddiadau deuddydd sydd wedi'u hanelu'n benodol at y rhai sydd mewn rôl sicrhau ansawdd. Caiff y diwrnod cyntaf ei gynnal ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2017 a chaiff yr ail ddiwrnod ei gynnal ym mis Chwefror/Mawrth 2018.
Disgwylir i'r rhai sy'n bresennol gymryd rhan yn y ddau ddiwrnod, Sicrhewch eich bod yn archebu lle yn y ddau ddigwyddiad, os gwelwch yn dda.
Bydd y digwyddiadau yn rhyngweithiol, gyda chyfleoedd i'r rhai sy'n bresennol ystyried:
-
Rheoli Ansawdd v Sicrhau Ansawdd
-
Egwyddorion ac arferion Sicrhau Ansawdd
-
Cynllunio Sicrhau Ansawdd a'i roi ar waith
-
Gwerthuso Sicrhau Ansawdd
-
Rhoi adborth a chynorthwyo gwelliannau mewn canolfannau
Cewch gyfle hefyd i glywed gan City and Guilds a CBAC, y consortia cyrff dyfarnu newydd a gontractiwyd i ddarparu'r gyfres newydd o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol yn 2019.
Bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu asesu eu harferion presennol a nodi gwelliannau er mwyn sicrhau ansawdd cymwysterau seiliedig ar gymhwysedd mewn ffordd gyson ac effeithiol.
Byddem yn annog pob canolfan i archebu hyd at dri lle ar gyfer y digwyddiadau, fel y gall cydweithwyr gydweithio i gytuno ar gamau gweithredu a'u rhoi ar waith.
Bydd angen i chi ddod â chopïau o gynllun rheoli ansawdd a dogfennaeth sicrhau ansawdd mewnol eich canolfan gyda chi fel sail ar gyfer trafodaeth mewn gweithgareddau grŵp.
Bydd achrediad DPP ar gael ar ffurf bathodyn agored a ddyfernir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gweithdy (Diwrnod 1) |
Gweithdy (Diwrnod 2) |
|
Gwesty'r Celt, Caernarfon |
||
Gwesty'r Diplomat, Llanelli |
||
Gwesty Neuadd Maes Mawr, y Drenewydd |
||
Gwesty Coldra Court, Casnewydd |