Dywedwch wrthym beth yw eich barn am gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yng Nghymru
Mae Cymwysterau Cymru unwaith eto yn gwahodd dysgwyr, athrawon ac aseswyr i rannu eu barn am gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yng Nghymru.
Fel o'r blaen, byddwn yn cynnal holiaduron byr ar-lein ar gyfer cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant Lefel 2 a Lefel 3 yng Nghymru, trwy gyfryngau'r Gymraeg a Saesneg. Yn ogystal, byddwn yn cynnal holiaduron ar wahân ar gyfer cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5.
Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, a gall yr adborth a roddwch helpu i lywio ein gwaith monitro o'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant hyn.
Mae'r holiaduron ar gael ar-lein nawr, a byddant ar agor tan fis Gorffennaf 2021. Dim ond tua phum munud y dylent ei gymryd ac maent yn hollol ddienw. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw, nac enw eich canolfan / ysgol / coleg.
Cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3
Holiadur Canolfan ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 ar gael yma.
Holiadur Dysgwyr ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 ar gael yma.
Cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5
Holiadur Canolfan ar gyfer cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 ar gael yma.
Holiadur Dysgwyr ar gyfer cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 ar gael yma.
Diolch am gymryd rhan