Trafodaethau athrawon ar Asesiadau Di-arholiad – sylwadau cychwynnol Cam 2
Rydym yn gwahodd athrawon i gymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau grŵp ffocws am eu canfyddiadau a'u profiadau o Asesiadau Di-arholiad mewn TGAU. Mae Asesiadau Di-arholiad yn cyfeirio at unrhyw fath o asesiad nad yw'n arholiad a gymerir gan bob ymgeisydd ar yr un pryd. Felly mae Asesiadau Di-arholiad yn ymdrin ag ystod o weithgareddau asesu gan gynnwys gwaith cwrs, asesu llafar, gwaith maes, gwaith portffolio ac asesu ymarferol.
Bydd pob grŵp ffocws yn trafod canfyddiadau a phrofiadau athrawon o:
- Rôl Asesiadau Di-arholiad mewn asesiadau TGAU
- Cyflawni Asesiadau Di-arholiad
- Asesu Asesiadau Di-arholiad
- Adnoddau a chanllawiau sy'n ymwneud ag Asesiadau Di-arholiad
- Hyfforddiant athrawon mewn perthynas ag Asesiadau Di-arholiad
Ar ddiwedd pob grŵp ffocws bydd cyfle i gyfranogwyr awgrymu sut y gellid datblygu Asesiadau Di-arholiad yn y dyfodol i gefnogi'r cwricwlwm newydd.
Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws mewn pum lleoliad gwahanol ledled Cymru. Rydym yn rhagweld y bydd tua 12 o gyfranogwyr ym mhob grŵp. Rydym am glywed gan athrawon sydd â phrofiad o Asesiadau Di-arholiad yn un neu fwy o'r pynciau TGAU a restrir isod. Noder os gwelwch yn dda y bydd Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn cael eu trafod gyda'i gilydd yn y sesiwn Ieithoedd Tramor Modern. Bydd pob pwnc arall yn cael ei drafod yn unigol. Bydd lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio ag athrawon eraill ym mhob sesiwn.
Rydym yn bwriadu defnyddio canfyddiadau'r ymchwil hwn i lywio dyluniad a datblygiad cymwysterau yn y dyfodol, er enghraifft wrth edrych ar sut y gall cymwysterau gefnogi'r cwricwlwm newydd i Gymru. Rydym eisoes wedi cynnal nifer o grwpiau ffocws mewn deg pwnc TGAU ac mae canfyddiadau'r grwpiau hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio ein dealltwriaeth o sut mae athrawon yn ystyried Asesiadau Di-arholiad yn eu pwnc. Bydd canfyddiadau cam cyntaf hwn yr ymchwil ar gael yn gynnar yn 2020.
Os hoffech gyfrannu eich barn yn un o'r grwpiau ffocws hyn, dewiswch ddigwyddiad o'r rhestr isod. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch dim ond ar ôl i chi gadarnhau y byddwch chi'n gallu mynychu. Gofynnwn hefyd na fydd mwy na dau athro fesul pwnc yn mynychu o bob ysgol.
Os ydych yn cofrestru ac yna'n methu â mynychu, canslwch eich archeb trwy EventBrite i roi cyfle i rywun arall gymryd rhan.
Os hoffech gyfrannu at yr ymchwil hwn ond na allwch ddod i un o'r grwpiau ffocws hyn, cysylltwch â research@qualificationswales.org
I gael gwybodaeth ar sut rydym yn defnyddio ac yn storio data personol, a'ch hawliau mewn perthynas â hyn, gellir darllen yr hysbysiad preifatrwydd fan hyn.
Amser, dyddiad a lleoliad pob grŵp ffocws
Ardal |
Lleoliad |
Dyddiad |
Amser |
Pwnc |
Wrecsam |
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, |
Dydd Llun 4 Tachwedd 2019 |
4-6pm |
Cerddoriaeth |
Hanes |
||||
Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2019 |
4-6pm |
Dylunio a Thechnoleg |
||
Ieithoedd Modern Tramor |
||||
Dydd Mercher 6Tachwedd 2019 |
4-6pm |
Bwyd a Maeth |
||
Astudio’r Cyfryngau |
||||
Dydd Iau 7 Tachwedd 2019 |
4-6pm |
Cymraeg Ail Iaith |
||
Casnewydd |
Cymwysterau Cymru, Adeilad Q2, Lôn Pencarn, Casnewydd, NP10 8AR. |
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 |
4-6pm |
Bwyd a Maeth |
Astudio’r Cyfryngau |
||||
Dydd Iau 21 Tachwedd 2019 |
4-6pm |
Cymraeg Ail Iaith |
||
Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019 |
4-6pm |
Cerddoriaeth |
||
Hanes |
||||
Dydd Iau 12Rhagfyr 2019 |
4-6pm |
Dylunio a Thechnoleg |
||
Ieithoedd Modern Tramor |
||||
Llandudno |
The Imperial Hotel, Stryd Vaughan, Y Promenâd, Llandudno LL30 1AP |
Dydd Llun 2 Rhagfyr 2019 |
4-6pm |
Cerddoriaeth |
Hanes |
||||
Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2019 |
4-6pm |
Dylunio a Thechnoleg |
||
Ieithoedd Modern Tramor |
||||
Dydd Mercher 4Rhagfyr 2019 |
4-6pm |
Bwyd a Maeth |
||
Astudio’r Cyfryngau |
||||
Dydd Iau 5 Rhagfyr 2019 |
4-6pm |
Cymraeg Ail Iaith |
||
Caerdydd |
Canolfan Fusnes Henstaff Court, Ffordd Llantrisant, Caerdydd CF72 8NG |
Dydd Mercher 8 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Cymraeg Ail Iaith |
Dydd Iau 9 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Bwyd a Maeth |
||
Astudio’r Cyfryngau |
||||
Dydd Mercher 29 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Cerddoriaeth |
||
Hanes |
||||
Dydd Iau 30 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Dylunio a Thechnoleg |
||
Ieithoedd Modern Tramor |
||||
Abertawe |
Gwesty Mercure Abertawe, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe SA7 9EG |
Dydd Mawrth 14 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Cymraeg Ail Iaith |
Dydd Mercher 15 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Bwyd a Maeth |
||
Astudio’r Cyfryngau |
||||
Dydd Mercher 22 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Cerddoriaeth |
||
Hanes |
||||
Dydd Iau 23 Ionawr 2020 |
4-6pm |
Dylunio a Thechnoleg |
||
Ieithoedd Modern Tramor |