Arolygon ymgysylltu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Ar hyn o bryd mae Cymwysterau Cymru yn cydweithio â phartneriaid allweddol i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru.
Mae'r gwaith hwn yn cynnwys datblygu Meini Prawf Cymeradwyo newydd sy'n gosod y gofynion sylfaenol ar gyfer cymhwyster. Fel rhan o'r gwaith datblygu hwn, rydym yn cydweithio â Chonsortiwm y corff dyfarnu o City & Guilds a CBAC i ymgysylltu ag arbenigwyr o'r sector a gofyn am adborth ar ein cynigion. Byddwn yn gwneud hyn drwy gyfres o ddigwyddiadau Cymru gyfan, a hefyd arolygon ar-lein ar gyfer ymarferwyr, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, athrawon a darlithwyr.
I rannu’ch adborth gyda ni, cliciwch ar y ddolen i’r cymhwyster perthnasol isod. Nodwch mai 2 Mawrth 2018 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch adborth.
-
Lefel 2 Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant
-
Lefel 3 Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant: Egwyddorion, Cyd-destunau ac Ymarfer
-
Lefel 3 Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant:Ymarfer
-
Lefel 4 Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant gydag Arbenigedd
-
Lefel 4 Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant: Egwyddorion, Damcaniaethau a Chyd-destunau
-
Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant: Ymarfer
Bydd arolygon ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant newydd eraill ar gael dros yr wythnosau i ddod.