Ymgynghoriad ar ddiwygio cymwysterau i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2017
Rhwng 4 Ebrill a 15 Mai 2016, ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ar gynigion ar gyfer nifer o gymwysterau diwygiedig i'w Cymeradwyo i'w haddysgu am y tro cyntaf yng Nghymru o fis Medi 2017.
Ym mis Gorffennaf 2016, gwnaethom gyhoeddi'r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau diwygiedig, a nododd y gofynion manwl ar gyfer sut y dylid dylunio ac asesu'r cymwysterau diwygiedig. Cafodd y gofynion hyn eu llywio gan yr ymatebion i'n hymgynghoriad a chan safbwyntiau a fynegwyd gan ddysgwyr drwy ymarfer ymgysylltu ategol.
Mae'r adroddiadau canlynol yn crynhoi'r ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriadau ar y cynigion ac yn egluro'r penderfyniadau a wnaed gennym o ystyried yr ymatebion hyn wrth ddatblygu'r Meini Prawf Cymeradwyo terfynol ar gyfer pob pwnc.
Mae copi o'r cynigion a'r ymatebion i'r ymgynghoriadau ar gael isod.
Pwnc |
Cynigion yr Ymgynghoriad |
Ymatebion i'r Ymgynghoriad |
Busnes: TGAU |
||
Cyfrifiadureg: TGAU |
||
Dylunio a Thechnoleg: TGAU |
||
Dylunio a Thechnoleg: UG a Safon Uwch |
||
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth: UG a Safon Uwch |
||
Y Gyfraith: UG a Safon Uwch |
||
Mathemateg a Mathemateg Bellach: UG a Safon Uwch |
||
Astudiaethau'r Cyfryngau: TGAU |
||
Astudiaethau'r Cyfryngau: UG a Safon Uwch |
||
Cymraeg Ail Iaith: TGAU |