Cwestiynau Cyffredin

Beth fydd y cwricwlwm newydd yn ei olygu i gymwysterau?

Beth mae'r cwricwlwm newydd yn ei olygu i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed sy'n astudio yng Nghymru?

Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni ystyried beth yw pwrpas cymwysterau a ddilynir gan bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed. Rydyn ni’n manteisio ar y cyfle hwn i ystyried a yw'r dewis o gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed eu sefyll yn gywir, ac ystyried a ellid ei wella a sut. Dylai’r cymwysterau sydd ar gael fod yn berthnasol i gwricwlwm newydd Cymru a’i gefnogi, gan gynnig addysg eang a chynhwysfawr i bob dysgwr a chan gydbwyso ystod o wybodaeth a sgiliau. Mae cymwysterau’n ffordd bwysig i bobl ifanc ddangos i'r byd yr hyn y maent wedi'i ddysgu, yr hyn y gallant ei wneud a'r hyn y maent yn barod ar ei gyfer nesaf – eu pasbort i ddyfodol mwy disglair.

Sut y byddwn yn penderfynu pa gymwysterau fydd eu hangen ar gyfer y cwricwlwm newydd?

Byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig i’r cymwysterau sydd ar gael yn cael eu profi’n drylwyr ac yn gwneud synnwyr i ddysgwyr, athrawon, rhieni, gofalwyr a chyflogwyr. 

Sut bydd y newid o'r cymwysterau presennol i'r cymwysterau newydd yn digwydd? A fydd rhywfaint o orgyffwrdd, a sut y caiff hynny ei reoli?

Byddwn ni am wneud yn siŵr bod unrhyw gymwysterau newydd neu sydd wedi'u diweddaru ar gael mewn digon o amser cyn i'r dysgwyr ddechrau astudio ar eu cyfer. Mae angen cael digon o amser i ysgolion a staff addysgu baratoi ar gyfer y cymwysterau newydd, ac i gefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau fod ar gael ar gyfer y cymwysterau newydd. 

Byddwn yn cadarnhau yn haf 2021 sut olwg fydd ar yr ystod o gymwysterau yn y dyfodol, fel y gall ysgolion fwrw ymlaen â chynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm newydd yn hyderus.

Pryd fydd unrhyw gymwysterau newydd yn barod?

Rydyn ni’n gwybod bod ar athrawon angen digon o amser i baratoi ar gyfer cymwysterau newydd, felly rydyn ni’n bwriadu cwblhau'r newidiadau ymhell cyn adeg eu haddysgu gyntaf.  Ar ôl cyfnod o ymgysylltu, dylunio ac ymgynghori pellach, bydd cymwysterau unigol wedyn yn mynd drwy broses gymeradwyo ffurfiol tra bod hyfforddiant ac adnoddau yn cael eu datblygu. 

A fydd dysgwyr yn dal i astudio ar gyfer TGAU?

Sefydlodd ein hymgynghoriad cyntaf fod cefnogaeth gref i gadw'r brand TGAU, a dyna pam y bydd TGAU yn parhau i fod â lle yn y cwricwlwm newydd. Ond bydd angen i gymwysterau TGAU unigol addasu i adlewyrchu'r cwricwlwm sy'n newid, felly gall edrych yn dra gwahanol i gymwysterau TGAU heddiw. Yn ystod 2021, drwy ymchwil ac ymgysylltu, byddwn yn ystyried sut y gallai dyluniad ac asesiad TGAU newid yn y dyfodol. 

A yw'r ystod bresennol o gymwysterau yng Nghymru yn addas at y diben, ac os felly, oni ddylem eu cadw?

Rydyn ni am gael cymwysterau sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac mae'r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle i ailfeddwl posibiliadau. Bydd y cwricwlwm newydd yn cyflwyno dull gwahanol o addysgu a dysgu ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed yng Nghymru. Mae hwn yn gyfnod cyffrous, gyda chwricwlwm uchelgeisiol ac arloesol ar y ffordd, a thechnoleg a syniadau newydd yn newid sut mae ysgolion yn addysgu a myfyrwyr yn profi eu dysgu. Mae gennym gyfle i edrych ar sut y gallai cymwysterau newydd a gwahanol - y gellir ymddiried ynddynt ac sy’n cael eu cydnabod yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol - helpu i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn llwyddiant. Ond nid ydym yn rhagdybio y bydd angen i bopeth newid. Ni fyddwn yn gwneud newidiadau heb reswm da dros wneud hynny. Byddwn yn ystyried yr achos dros unrhyw newidiadau yn ofalus er mwyn sicrhau y byddant o fudd i ddysgwyr ac i’r system.

Beth fydd yn digwydd i gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau ôl-16 eraill?

Er ein bod yn canolbwyntio ar gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, rydyn ni’n gwybod y gallai unrhyw newidiadau i gymwysterau TGAU a chymwysterau lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2 eraill gael effaith ganlyniadol ar y cymwysterau y mae dysgwyr yn mynd ymlaen i'w hastudio nesaf. Bydd unrhyw newidiadau a gynigiwn yn ceisio gwella cyfleoedd i bob dysgwr sy'n symud i addysg ôl-16 gamu ymlaen. Lle bo angen, byddwn yn edrych ar newidiadau penodol i ddarpariaeth ôl-16 fel rhan o'n gwaith ar y cynnig cyn-16, os byddwn yn ystyried y bydd hyn yn golygu'r budd mwyaf i ddysgwyr. 

A fydd dysgwyr yn dal i ddilyn Bagloriaeth Cymru a’r Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen ochr yn ochr â'r cymwysterau newydd arfaethedig?

Un o'r cynigion rydym yn ymgynghori arnynt yw a ddylai cymwysterau sy'n seiliedig ar sgiliau, fel Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, barhau i fod ar gael i ddysgwyr 14 i 16 oed ochr yn ochr â chymwysterau TGAU. Os cytunwn ar y cynnig hwn, byddwn yn gweithio gydag athrawon a dysgwyr i gytuno ar fanylion sut y gellid diweddaru a gwella'r cymhwyster. Hyd nes y bydd y cymwysterau newydd yn cael eu sefydlu, bydd dysgwyr yn parhau i ddilyn cymwysterau presennol, gan gynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau.

A fydd dysgwyr yn dal i allu sefyll cymwysterau galwedigaethol ochr yn ochr â chymwysterau TGAU newydd wedi'u gwneud ar gyfer Cymru?

Drwy'r ymgynghoriad hwn, rydym am sefydlu cyfres fwy cynhwysol o gymwysterau TGAU sy'n cynnwys pynciau a dulliau asesu a ddisgrifir weithiau fel rhai galwedigaethol. Bydd ysgolion a dysgwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o gymwysterau eraill (fel BTECs) sydd: 

  • yn wahanol i unrhyw gymhwyster a wnaed ar gyfer Cymru, 
  • yn cefnogi'r cwricwlwm, 
  • yn cael eu cynnig yn ddwyieithog, 
  • yn diwallu anghenion dysgwyr.   

Beth arall hoffech chi ei wybod? E-bostiwch eich cwestiwn atom ni yn reform@qualificationswales.org.