Datblygu Meini Prawf Cymeradwyo TGAU Technoleg Ddigidol
Rydym wrthi’n datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TGAU newydd mewn Technoleg Ddigidol, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2021.
Yn ein hadolygiad o gymwysterau a’r system gymwysterau yn y sector technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, Digidol i’r Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018, nodwyd nifer o gamau gweithredu a oedd â’r bwriad o fynd i’r afael â chasgliadau’r adolygiad hwn. Un o’r camau gweithredu hyn oedd datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TGAU Technoleg Ddigidol newydd, a fydd ar gael i’w addysgu ym mis Medi 2021.
Mae’r animeiddiadau yn cyflwyno ac yn crynhoi ein cynigion ar gyfer y cymhwyster newydd hwn. Ar ôl eu gwylio, rydym yn eich gwahodd i ddarllen y ddogfen ddrafft lawn ar y meini prawf cymeradwyo a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn yn ein harolwg adborth.
Mae’r ddogfen sy’n cynnwys y meini prawf cymeradwyo’n nodi’r cynnwys llawnach a’r trefniadau asesu y bydd angen eu bodloni mewn manylebau a ddatblygwyd gan gyrff dyfarnu. Cyn i ni gwblhau’r meini prawf cymeradwyo, rydym yn gwahodd ymatebwyr i gynnig adborth i ni’n ymwneud â’r canlynol:
- Diben y cymhwyster
- Y cynnwys arfaethedig
- Y trefniadau asesu arfaethedig
- Yr adnoddau a’r hyfforddiant angenrheidiol mewn perthynas â’r cymhwyster.
Bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal tan hanner dydd ar 29 Tachwedd 2019.
Cewch fwy o wybodaeth am ein dull ymgysylltu yma.
Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am yr amserlen ar gyfer y cymhwyster hwn yma.
Cliciwch y ddelwedd uchod i gael mwy o fanylion am ein cynigion.