Cymwysterau Cymorth Cyntaf: cais am adborth gan ddysgwyr
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben bellach. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn y man; cadwch lygad ar y dudalen hon i weld yr wybodaeth ddiweddaraf.
Rydym yn awyddus i glywed barn dysgwyr yng Nghymru sydd wedi cwblhau'r cymwysterau cymorth cyntaf canlynol yn ddiweddar:
-
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
-
Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
-
Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys
-
Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig
Bydd eich atebion yn ein helpu i wella'r ffordd y caiff cymwysterau eu dyfarnu yng Nghymru.
Sut gallwch gymryd rhan?
Rydym yn gofyn i ddysgwyr gwblhau arolwg byr. Mae hwn yn gwbl ddienw ac ni phriodolir unrhyw ymateb i unrhyw unigolyn na sefydliad.
I gwblhau'r arolwg, cliciwch yma. Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Gwener 4 Awst.
Diolch.