Ymgynghoriad ar y Polisi Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig Drafft
Daeth yr ymgynghoriad ar y Polisi Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig i ben ddydd Gwener 17 Mehefin 2016. Rydym wedi dadansoddi'r ymatebion a gawsom, ac wedi llunio adroddiad yn dadansoddi'r ymgynghoriad.
Yn dilyn y sylwadau a gyflwynwyd, gwnaed sawl diwygiad i'r polisi a amlinellir yn yr adroddiad. I weld yr adroddiad, cliciwch yma. I ddarllen yr Adolygiad, cliciwch yma.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gyrff dyfarnu a phartïon eraill â diddordeb roi adborth i Cymwysterau Cymru ar y polisi ar gyfer cyfyngu cymwysterau blaenoriaethol.
Diben y polisi hwn yw rhoi arweiniad i gyrff dyfarnu a phartïon eraill â diddordeb ar y sail resymegol ar gyfer cyfyngu cymwysterau blaenoriaethol a'r broses ar gyfer cyfyngu cymwysterau.
Rydym ni eisiau sicrhau bod y prosesau a ddisgrifir yn y polisi mor eglur a rhwydd eu deall â phosibl. Gwahoddir cyrff dyfarnu ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb i adolygu'r polisi a rhoi adborth i ni trwy gwblhau'r arolwg dilynol sydd. Er gwybodaeth, gellir darllen fersiwn PDF o gwestiynau'r arolwg yma.
Cliciwch yma i gael trosolwg o'r broses ymgynghori ac i ddarllen y Polisi Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig Drafft.
Bydd yr adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried ac yn llywio fersiwn derfynol y polisi.
Dechrau'r ymgynghoriad: 13 Mai 2016
Diwedd yr ymgynghoriad: 17 Mehefin 2016