Ymgynghoriad ar y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch a Bagloriaeth Uwch Cymru
Dechrau ddydd Llun 21 Medi 2020 (hanner dydd) – Cau ddydd Gwener 13 Tachwedd 2020 (hanner dydd)
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ar gyfer newidiadau i'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch a Bagloriaeth Uwch Cymru (Bagloriaeth Cymru).
Yn yr adran hon fe welwch y ddogfen ymgynghori fanwl (y brif ddogfen ymgynghori) sy'n egluro ein cynigion a'n rhesymau drostynt. Ochr yn ochr â hi fe welwch ddolen i arolwg byr a gynlluniwyd i'ch annog i rannu eich barn ar ein cynigion.
Rydym hefyd yn darparu fersiwn byrrach (Fersiwn Cryno) ar gyfer pobl ifanc a'u teuluoedd. Ochr yn ochr â hi fe welwch ddolen i Fersiwn Cryno'r arolwg.
Treuliwch ychydig amser yn darllen y dogfennau ac ymateb i'n harolwg ymgynghori, y gellir ei gwblhau yn Gymraeg neu yn Saesneg, cyn hanner dydd ddydd Gwener 13 Tachwedd 2020.
Y brif ddogfen ymgynghori
Diolchwn i chi ymlaen llaw am gymryd yr amser i edrych ar ein cynigion ac am rannu eich meddyliau a'ch syniadau.
Byddwn yn cyflwyno adroddiad ar ein canfyddiadau ar ein gwefan y gwanwyn nesaf.