Cymwys ar gyfer y dyfodol – dweud eich dweud
Mae'r cwricwlwm yng Nghymru yn newid - ac rydym am gael eich help i benderfynu beth fydd hyn yn ei olygu i gymwysterau.
O nawr tan 16 Ebrill, rydym yn ymgynghori ar:
- y pynciau TGAU a ddylai fod ar gael yn y dyfodol ;
- y cymwysterau eraill a wnaed ar gyfer Cymru a ddylai fod ar gael hefyd.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Bydd eich adborth yn ein helpu i benderfynu a yw ein cynigion yn iawn, neu a ddylen ni eu diwygio. Unwaith y byddwn wedi penderfynu ar yr ystod o gymwysterau, byddwn yn cyhoeddi adroddiad i grynhoi eich ymatebion ac egluro ein penderfyniadau.
Dogfennau ymgynghori |
|
|
Sut i Ymateb |
Arolwg ar-lein
|
Arolwg ar-lein, fersiwn addas i bob ifanc – ymateb yma |
Rydym yn eich annog yn gryf i ymateb trwy un o'n harolygon ar-lein.
Fel arall, gallwch:
- Ymateb i'r ddogfen ymgynghori PDF trwy gwblhau'r cwestiynau ymgynghori
- Ymateb gan ddefnyddio'r ddogfen ymgynghori - Fersiwn PDF sy'n gyfeillgar i bobl ifanc
a chyflwyno'r rhain trwy e-bost neu bost.
E-bost |
|
Post |
Opinion Research Services Rhadbost (SS1018) Blwch Post 530 Abertawe SA1 1ZL |
Mae gennym nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod ymgynghori byw a restrir ar ein tudalen digwyddiadau, lle gallwch ddysgu mwy am ein cynlluniau.
Daw'r ymgynghoriad i ben am 5pm Dydd Gwener, 16 Ebrill 2021. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymateb mewn pryd, gan na allwn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar diwygio@cymwysteraucymru.org