Canfyddiadau a Phrofiad o Asesiad di-Arholiad

Adroddiad am ganfyddiadau pwnc-benodol a thrawsbynciol ymchwil a gynhaliwyd ar brofiadau a chanfyddiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU cymeradwy yng Nghymru, rhwng gwanwyn 2019 a gwanwyn 2020.

Ers 2019, mae ein tîm ymchwil wedi bod yn gweithio ar brosiect ar raddfa fawr ar ddefnyddio asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU cymeradwy yng Nghymru.

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar brofiad a chanfyddiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau di-arholiad ac yn cynnwys:

  • Grwpiau ffocws dysgwyr
  • Grwpiau ffocws athrawon
  • Arolwg ar-lein i athrawon

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd, ochr yn ochr â thystiolaeth arall, i lywio ein syniadau am y ffordd y gellid cynllunio cymwysterau TGAU yn y ffordd fwyaf effeithiol i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys adran ar gyfer pob pwnc unigol sy'n amlinellu'r prif ganfyddiadau o bob un o'r tair ffrwd waith. Dyma'r pynciau:

  • TGAU Celf a Dylunio
  • TGAU Cyfrifiadureg
  • TGAU Dylunio a Thechnoleg
  • TGAU Drama
  • TGAU Saesneg Iaith
  • TGAU Llenyddiaeth Saesneg
  • TGAU Bwyd a Maeth
  • TGAU Daearyddiaeth
  • TGAU Hanes
  • TGAU Astudio’r Cyfryngau
  • TGAU Ieithoedd Tramor Modern
  • TGAU Cerddoriaeth
  • TGAU Addysg Gorfforol
  • TGAU Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl)
  • TGAU Cymraeg Iaith
  • TGAU Llenyddiaeth Gymraeg
  • TGAU Cymraeg Ail Iaith

 

Mae'r crynodebau gweithredol ar gyfer dau gam yr ymgysylltu â dysgwyr a luniwyd gan AlphaPlus hefyd ar gael i'w darllen.

      

Hoffem ddiolch i'r holl athrawon, dysgwyr a chyfranogwyr eraill fu’n gysylltiedig â'n helpu gyda'r ymchwil hwn.