Bagloriaeth Cymru
Beth yw Bagloriaeth Cymru?
Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn unigryw i Gymru.
Mae'n helpu i baratoi myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed ar gyfer y byd gwaith, ar gyfer astudio ymhellach ac ar gyfer bywyd.
Caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddyfarnu i fyfyriwr drwy gyflawni cyfuniad penodedig o gymwysterau.
Tystysgrif Her Sgiliau, sef cymhwyster arloesol sy'n seiliedig ar sgiliau, sydd wrth wraidd Bagloriaeth Cymru.
Hefyd, mae Bagloriaeth Cymru yn cynnwys:
- Cymwysterau TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith a Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd. Gellir defnyddio elfennau llythrennedd a rhifedd cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru; a
- dewis o blith cymwysterau ategol - TGAU, Safon Uwch neu alwedigaethol.
Caiff Bagloriaeth Cymru ei dyfarnu ar dair lefel:
- Sylfaenol (lefel 1) yng nghyfnod allweddol 4;
- Cenedlaethol (lefel 2) yng nghyfnod allweddol 4;
- Uwch (lefel 3).
Caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddyfarnu i fyfyriwr drwy gyflawni cyfuniad penodedig o gymwysterau ar bob lefel.
Lawrlwythwch ein cerdyn post gwybodaeth Bagloriaeth Cymru yma