Tystysgrif Her Sgiliau Uwch
Ym mis Medi 2020, lansiwyd ein hymgynghoriad Sgiliau’r Dyfodol pan wnaethom ofyn am farn ar newidiadau arfaethedig i gymhwyster y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (THS) a fframwaith trosfwaol Bagloriaeth Cymru Uwch.
Yn sgil yr ymgynghoriad rydym wedi penderfynu cymryd y camau canlynol.
-
Dod â fframwaith Bagloriaeth Cymru i ben er mwyn canolbwyntio ar y cymhwyster annibynnol sy'n seiliedig ar sgiliau.
-
Creu cymhwyster newydd o'r enw 'Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru', a fydd ar gael o fis Medi 2023.
-
Dylunio'r cymhwyster newydd i fod yn fwy hylaw, yn fwy diddorol ac yn haws ei ddeall.
Gallwch ddarllen manylion llawn yr ymgynghoriad a'r canlyniadau yn ein hadroddiad penderfyniadau, ein hadroddiad canfyddiadau a'n fersiwn gryno, i gyd ar y dudalen hon.
Ar ôl gwneud ein penderfyniadau, ein cam nesaf yw defnyddio ein pwerau statudol i sicrhau corff dyfarnu i ddatblygu'r cymhwyster. Rydym yn bwriadu cyfyngu'r cymhwyster hwn i un ffurf, ac rydym wedi cyhoeddi hysbysiad o fwriad i gyfyngu ar ddarparu mwy o wybodaeth i randdeiliaid sy'n debygol o gael eu heffeithio.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer sylwadau mewn perthynas â’r Hysbysiad o Fwriad i Gyfyngu bellach wedi mynd heibio. Hoffem nawr siarad â chyrff dyfarnu a allai fod â diddordeb mewn contract consesiwn i ddatblygu a dyfarnu’r cymhwyster hwn fel rhan o broses ymgysylltu cyn tendro. Byddwn yn cyhoeddi ein Penderfyniad i Gyfyngu yn fuan. Am fwy o wybodaeth, ewch yma.