Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
Rydym wedi cychwyn ein hadolygiad o'r sector Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, sef y cyntaf yn ein cyfres o adolygiadau sector cam 2.
Drwy gydol yr adolygiad, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys cyrff dyfarnu, cyflogwyr a darparwyr dysgu (Colegau Addysg Bellach, Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac Ysgolion Chweched Dosbarth).
Byddwn yn mynd i’r afael ag amcanion yr adolygiad trwy ddefnyddio amrywiaeth o ffrydiau gwaith gwahanol, gan gynnwys dadansoddi data a gwybodaeth arall sydd ar gael, yn ogystal ag ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach o fewn y sector.
Byddwn yn cynnal cyfweliadau manwl â rhanddeiliaid perthnasol i gael gwybod a yw cymwysterau a gymerir gan ddysgwyr a phrentisiaid yng Nghymru yn diwallu eu hanghenion, yn ogystal ag anghenion darparwyr dysgu a chyflogwyr.
Byddwn yn gwahodd dysgwyr i rannu eu barn mewn arolwg dysgwyr a anfonir at ddarparwyr dysgu, ac a fydd yn cael ei hyrwyddo ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ar ddiwedd yr adolygiad, byddwn yn cyhoeddi adroddiad cryno o'n canfyddiadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fod yn rhan o'r adolygiad, cysylltwch â ni ar un o’r cyfeiriadau e-bost canlynol:
adolygiadausectorcam2@cymwysteraucymru.org
Arolwg dysgwyr
Rydyn ni’n gwahodd dysgwyr i rannu eu barn ar gymwysterau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus drwy lenwi holiadur byr.
Mae'r holiadur ar agor rhwng 23 Rhagfyr a 28 Chwefror. Dylai gymryd tua 10 munud i'w gwblhau ac mae'n gwbl ddienw. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw nac enw eich canolfan/ysgol/coleg.
I lenwi'r holiadur, cliciwch yma.