Adolygiadau sector
Cymwysterau galwedigaethol yw 90% o'r cymwysterau rheoleiddiedig sydd ar gael yng Nghymru, a dylent adlewyrchu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Adolygiadau sector yw conglfaen ein gwaith mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol, ynghyd â'n gwaith beunyddiol fel rheoleiddiwr, sy'n ein galluogi i ganolbwyntio ar gymwysterau mewn sectorau gwaith penodol.
Gyda phob adolygiad sector rydym yn ymgymryd ag ef, anelwn at:
- ddeall y tirlun cymwysterau;
- clywed barn rhanddeiliaid am y cymwysterau a'r system gymwysterau;
- penderfynu p'un a ddylen ni gymryd unrhyw gamau gweithredu (neu argymell bod eraill yn eu cymryd) i wella cymwysterau neu'r system.
Ar gyfer sectorau mwy, rydym hefyd yn anelu at:
- ystyried i ba raddau y mae'r cymwysterau, a'r system gymwysterau, yn dechnegol effeithiol ac yn addas i'r diben;
- dysgu gwersi o systemau cymwysterau gwledydd eraill.
Ein dull gweithredu
Rydym yn:
- cyfweld â rhanddeiliaid (gan gynnwys cyflogwyr, cyrff sector, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, sefydliadau addysg bellach ac ysgolion);
- sefydlu panel rhanddeiliaid o 'ffrindiau beirniadol' er mwyn ein helpu a'n cynghori;
- annog unigolion i rannu eu barn â ni drwy arolwg ar-lein.
Roedd ein pedwar adolygiad sector cyntaf yn ymwneud â sectorau eang, a fu’n cynnwys sawl maes pwnc. Ar gyfer y rhain, bu i ni hefyd:
- gynnal adolygiad technegol o gymwysterau gan gynnwys gwaith dysgwyr;
- cynnal astudiaeth gymharu ddesg ryngwladol.
Ein hadolygiadau sector cynlluniedig
Wedi'u cwblhau
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant a gwaith chwarae) - a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig - a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu - a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018
- Peirianneg, gweithgynhyrchu uwch ac ynni - a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020
I'w trefnu
- Gwasanaethau ariannol
- Gwasanaethau cwsmeriaid a manwerthu
- Teithio a thwristiaeth
- Lletygarwch ac arlwyo
Mae pob adolygiad sector yn wahanol; ni fydd canlyniadau un adolygiad o reidrwydd yr un peth â chanlyniadau'r adolygiad nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Strategaeth Cymwysterau Galwedigaethol.