Dywedwch wrthym beth yw eich barn am gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yng Nghymru
Mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd dysgwyr, athrawon ac aseswyr i rannu eu barn am gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yng Nghymru.
Rydym yn cynnal holiaduron byr ar-lein ar gyfer cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant Lefel 2 a Lefel 3 yng Nghymru, yn ogystal â chymwysterau Lefel 4 a Lefel 5. Mae'r holiaduron hyn yn cael eu rhedeg yn ddwyieithog trwy gyfryngau’r Gymraeg a Saesneg.
Tua phum munud y dylai gymryd i gyflawni holiadur. Mae’r holiaduron yn hollol ddienw; ni fyddwn yn gofyn am eich enw, nac enw eich canolfan / ysgol / coleg.
Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, a gall yr adborth a roddwch helpu i lywio ein gwaith monitro o'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant hyn.
Diolch am gymryd rhan.
Cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3
Holiadur Canolfan ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 ar gael yma.
Holiadur Dysgwyr ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 ar gael yma.
Cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5
Holiadur Canolfan ar gyfer cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 ar gael yma.
Holiadur Dysgwyr ar gyfer cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 ar gael yma.