Esbonio Apeliadau 2020
Gall canolfannau apelio i CBAC ar ran y dysgwr, sydd yr un fath ag yn y blynyddoedd blaenorol. Gall dysgwyr ofyn i'w canolfan wirio a oedden nhw wedi gwneud camgymeriad pan wnaethon nhw gyflwyno eu data asesu canolfan. Mewn rhai amgylchiadau, bydd ymgeiswyr preifat yn gallu apelio'n uniongyrchol i CBAC.
Sail dros Apelio
Gallwn gadarnhau bod y seiliau dros apelio, i'w cyflwyno gan ysgol neu goleg ar ran dysgwr, fel a ganlyn:
- Cred Pennaeth y Ganolfan fod camgymeriad gweinyddol neu weithdrefnol wedi'i wneud wrth gyflwyno data asesu’r ganolfan i CBAC.
- Cred Pennaeth y Ganolfan fod CBAC wedi cyflwyno gwall yn y data asesu canol a gyflwynwyd iddo.
- Mae Pennaeth y anolfan o'r farn bod canlyniad a gyhoeddwyd gan CBAC wedi'i ddyrannu a / neu ei gyfleu yn anghywir i ddysgwr.
- Bod rhyw fethiant gweithdrefnol arall wedi bod ar ran CBAC.
O ran y dysgwyr hynny sy'n derbyn gradd wedi'i chyfrifo am mai honno yw'r uchaf o blith y graddau sydd ar gael iddynt, bydd y seiliau gwreiddiol dros apelio yn parhau mewn grym.
Pan fydd gan ddysgwyr bryderon gwirioneddol bod eu canolfan wedi dangos tuedd neu wahaniaethu o ryw fath neu'i gilydd, dylai'r dysgwr godi'r mater gyda'i ganolfan.
Gallwn hefyd gynnig sicrwydd na fydd unrhyw ddysgwyr a enwir mewn apêl, p'un ai eu bod wedi rhoi eu caniatâd neu beidio, mewn perygl o gael gostwng eu graddau o ganlyniad i'r apêl. Codi neu'n aros yr un fath yn unig fydd graddau o ganlyniad i’r broses apelio.
Os ydych chi’n credu bod gwall mewn graddau rydych wedi’u cael, gallwch weld rhagor o wybodaeth am yr hyn gallwch ei wneud yma.