Gaeaf 2018/19
Mae arholiadau mis Tachwedd yn cynnwys cyfleoedd yn: TGAU Saesneg Iaith, TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Mathemateg – Rhifedd a TGAU Mathemateg
Anfonwyd llythyr at bob ysgol a choleg, gan nodi ein dull o ddyfarnu cyfres arholiadau mis Tachwedd ar 30 Tachwedd 2018. Byddwn yn monitro’r gwaith o ddyfarnu’r cymwysterau hyn yn agos, i sicrhau bod y ffiniau gradd mae CBAC yn eu gosod yn briodol a bod safon TGAU wedi’i chynnal.
Cofrestriadau
Gwnaethom gyhoeddi’r data dros dro am gofrestriadau ar gyfer y gyfres ar 29 Tachwedd 2018.
Trosolwg o Ganlyniadau Arholiadau TGAU Tachwedd 2018
Ym mis Tachwedd 2018, dyfarnwyd TGAU Saesneg Iaith, TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd. Gwnaethom gyhoeddi ystadegau swyddogol ar gofrestriadau mis Tachwedd ddydd Iau 29 Tachwedd 2018 a oedd yn dangos newid sylweddol i'r cofrestriadau o gymharu â mis Tachwedd 2017 (gostyngiad o 59.1%). Mae'n debygol bod y newid mawr hwn i gofrestriadau yn rhannol yn ymateb i newidiadau i fesurau perfformiad gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'u hanelu at atal cofrestru cynnar a lluosog ar raddfa helaeth.
Mewn cyfresi mis Tachwedd blaenorol, dim ond myfyrwyr a oedd yn ailsefyll oedd yn gallu cofrestru ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a TGAU Cymraeg Iaith. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am newidiadau i fesurau perfformiad ysgol o 2019, mae'r cyfyngiadau cofrestru ar gyfer y gyfres hon wedi cael eu diddymu.
Rydym wedi monitro gwaith CBAC o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn yn agos ac rydym yn hyderus fod safonau wedi cael eu cynnal.
Penawdau:
- Cafwyd canlyniadau cryf ar gyfer TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd o gymharu â chyfresi mis Tachwedd blaenorol.
- Roedd y canlyniadau wedi gwella ar radd A* ac A ar gyfer TGAU Saesneg Iaith o gymharu â chyfresi mis Tachwedd blaenorol.
- Nid oedd proffil y myfyrwyr a oedd yn sefyll TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd ym mis Tachwedd hwn yn cynrychioli'r cohort cyfan. Roedd y myfyrwyr a gofrestrodd ar gyfer y pynciau hyn yn gynnar ym mis Tachwedd 2018 yn dueddol o fod yn fyfyrwyr â gallu uwch.
- Mae'r canlyniadau ar gyfer myfyrwyr 17 oed sy'n ailsefyll wedi gwaethygu ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg-Rhifedd.
- Cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cofrestriadau ar draws pob pwnc o gymharu â chyfresi mis Tachwedd blaenorol sy'n ei gwneud yn anodd gwneud cymariaethau ystyrlon o flwyddyn i flwyddyn.
TGAU Mathemateg
TGAU Mathemateg (Pob myfyriwr, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2016 |
22,686 |
5.8 |
9.9 |
46.1 |
91.2 |
Tachwedd 2017 |
21,881 |
5.3 |
10.6 |
45.8 |
91.5 |
Tachwedd 2018 |
6,577 |
12.6 |
22.8 |
58.4 |
92.1 |
Mae gan bob cyfres arholiadau gohort gwahanol o fyfyrwyr, gyda phroffil gallu cyffredinol gwahanol. Nid oedd proffil y myfyrwyr a oedd yn sefyll arholiadau mis Tachwedd hwn yn cynrychioli'r cohort cyfan; disgwylir i hyn ddigwydd ar gyfer cymwysterau lle mae sawl cyfle i gofrestru.
Mae nifer y myfyrwyr a safodd arholiadau TGAU Mathemateg wedi newid yn sylweddol y mis Tachwedd hwn, o gymharu â mis Tachwedd 2017. Y mis Tachwedd hwn, roedd 73.4% o gofrestriadau gan fyfyrwyr 16 oed (Blwyddyn 11) i lawr o 89.8% ym mis Tachwedd 2017.
Cafwyd cynnydd sylweddol yng nghyfran y myfyrwyr sy'n sefyll y papurau haen uwch y mis Tachwedd hwn o gymharu â mis Tachwedd 2017 (37.3%, i fyny o 24.6% fis Tachwedd diwethaf). Mae'r canlyniadau ar gyfer myfyrwyr 16 oed yn awgrymu bod cyfres y mis Tachwedd hwn yn cael ei defnyddio ar gyfer mathemategwyr â gallu uwch. Gall hyn gael goblygiadau ar gyfer canlyniadau'r haf gan nad yw'n debygol y bydd y mathemategwyr â gallu uwch hyn yn cofrestru ar gyfer arholiadau'r haf, a all ostwng canlyniadau'r haf pan gânt eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.
TGAU Mathemateg (myfyrwyr 16 oed, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2016 |
21,774 |
5.9 |
10.1 |
47.0 |
92.1 |
Tachwedd 2017 |
19,559 |
5.7 |
11.5 |
48.4 |
92.8 |
Tachwedd 2018 |
4,887 |
16.8 |
30.1 |
68.9 |
94.6 |
TGAU Mathemateg (myfyrwyr 17 oed, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2016 |
167 |
1.8 |
4.8 |
29.3 |
88.0 |
Tachwedd 2017 |
1,324 |
0.8 |
2.3 |
28.9 |
93.4 |
Tachwedd 2018 |
1,040 |
0.4 |
1.5 |
29.0 |
87.7 |
TGAU Mathemateg-Rhifedd
TGAU Mathemateg-Rhifedd (Pob myfyriwr, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2016 |
28,753 |
5.6 |
12.3 |
46.1 |
88.5 |
Tachwedd 2017 |
19,193 |
4.2 |
11.1 |
48.3 |
91.3 |
Tachwedd 2018 |
11,931 |
7.4 |
17.7 |
57.6 |
92.7 |
Mae nifer y myfyrwyr sy'n sefyll TGAU Mathemateg-Rhifedd wedi parhau i ostwng o gymharu â mis Tachwedd 2017 a mis Tachwedd 2016, er nad yw wedi gostwng ar yr un gyfradd â TGAU Mathemateg. Y mis Tachwedd hwn, cafwyd 96.3% o gofrestriadau gan fyfyrwyr 16 oed (Blwyddyn 11).
Ar gyfer TGAU Mathemateg, nid oedd proffil y myfyrwyr a oedd yn sefyll arholiadau y mis Tachwedd hwn yn cynrychioli'r cohort cyfan; disgwylir i hyn ddigwydd ar gyfer cymwysterau lle mae sawl cyfle i gofrestru. Cafwyd cynnydd yng nghyfran y myfyrwyr sy'n sefyll y papurau haen uwch y mis Tachwedd hwn o gymharu â mis Tachwedd 2017 (40.0%, sy'n uwch na 28.0% fis Tachwedd diwethaf).
TGAU Mathemateg-Rhifedd (Myfyrwyr 16 oed, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2016 |
27,846 |
5.7 |
12.6 |
46.7 |
89.1 |
Tachwedd 2017 |
18,119 |
4.3 |
11.5 |
49.9 |
92.6 |
Tachwedd 2018 |
11,376 |
7.7 |
18.3 |
59.5 |
93.4 |
TGAU Mathemateg-Rhifedd (Myfyrwyr 17 oed, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2016 |
124 |
6.5 |
9.7 |
33.1 |
88.7 |
Tachwedd 2017 |
434 |
2.1 |
4.6 |
29.7 |
89.6 |
Tachwedd 2018 |
308 |
1.9 |
4.5 |
20.8 |
85.1 |
TGAU Saesneg Iaith
TGAU Saesneg Iaith (Pob myfyriwr, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2017 |
11,716 |
0.4 |
3.2 |
47.5 |
99.1 |
Tachwedd 2018 |
3,290 |
1.8 |
6.4 |
38.6 |
98.2 |
Mae nifer y myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau TGAU Saesneg Iaith wedi newid yn sylweddol y mis Tachwedd hwn, o gymharu â mis Tachwedd 2017. Mewn cyfresi Tachwedd blaenorol, dim ond myfyrwyr a oedd yn ailsefyll oedd yn cael cofrestru ar gyfer TGAU Saesneg Iaith.
Y mis Tachwedd hwn, cafwyd 52.6% o gofrestriadau gan fyfyrwyr 16 oed (blwyddyn 11) o gymharu â 88.3% ym mis Tachwedd 2017. Roedd 27.6% o ymgeiswyr yn fyfyrwyr 17 oed a oedd yn ailsefyll y cymhwyster y mis Tachwedd hwn o gymharu ag 8.7% ym mis Tachwedd 2017. Fodd bynnag, roedd nifer gwirioneddol y myfyrwyr 17 oed a oedd yn ailsefyll y cymhwyster y mis Tachwedd hwn yn llai na mis Tachwedd 2017 (875 ym mis Tachwedd 2018 a 1,018 ym mis Tachwedd 2017).
TGAU Saesneg Iaith (Myfyrwyr 16 oed, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2017 |
10,065 |
0.5 |
3.6 |
49.8 |
99.8 |
Tachwedd 2018 |
1,632 |
3.6 |
11.8 |
49.9 |
98.9 |
TGAU Saesneg Iaith (Myfyrwyr 17 oed, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2017 |
1,083 |
0.3 |
1.6 |
44.0 |
100.0 |
Tachwedd 2018 |
912 |
0.0 |
1.1 |
30.8 |
100.0 |
TGAU Cymraeg Iaith
TGAU Cymraeg Iaith (Pob myfyriwr, canrannau cronnol)
Cyfres Arholiadau |
Nifer yn sefyll yr arholiad |
A* |
A*-A |
A*-C |
A*-G |
Tachwedd 2017 |
502 |
0.4 |
7.8 |
52.0 |
99.4 |
Tachwedd 2018 |
185 |
0.0 |
3.2 |
33.5 |
99.5 |
Yn gyffredinol, mae'r newidiadau i'r cofrestriadau ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith y mis Tachwedd hwn o gymharu â mis Tachwedd 2017 yn ei gwneud hi'n anodd cymharu'r ddwy set o ganlyniadau'n ystyrlon.
Ceir crynodeb o'r canlyniadau ar wefan CBAC.