Haf 2017
Llythyr i ysgolion
Dyma'r llythyr yn amlinellu ein dull dyfarnu rheoleiddiol o wneud newidiadau i'r cymwysterau a newidiadau i'r gwasanaeth ymholiadau ar ôl y canlyniadau.
Erthyglau Ffocws
Yn Haf 2017, bydd cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch newydd, yn ogystal â'r Fagloriaeth Cymru newydd ar gyfer CA4 a Lefel Uwch.
O ddechrau Gorffennaf ymlaen, byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau gan ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Jo Richards (gweler y dolenni isod). Bydd y gyfres yn cynnwys crynodeb o'r newidiadau allweddol i'r cymwysterau newydd a'r hyn y gallent ei olygu i ganlyniadau ym mis Awst, ynghyd ag erthyglau â thema sy'n bwriadu gwella dealltwriaeth o'r broses ddyfarnu.
Ffocws ar Safon UG ac Safon Uwch
Ffocws ar Gamsyniadau Cyffredin
Ffocws ar Ganlyniadau Cymaradwy
Ffocws ar Bennu Ffiniau Graddau
Trosolwg
Un o'n prif weithgareddau fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru yw goruchwylio'r gwaith o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru.
Yn yr adran hon, gallwch ddarllen adroddiadau trosolwg o gyfres arholiadau haf 2017.
Adroddiad trosolwg: UG, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru - Haf 2017
Adroddiad trosolwg: TGAU a Lefel 1/2 Bagloriaeth Cymru - Haf 2017
Adolygiad o gyfres arholiadau'r haf 2017