Datganiad sefyllfa o ran trefniadau asesu yn 2021
Yn dilyn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi cytuno i gyhoeddi ein cyngor ochr yn ochr ag argymhellion yr Adolygiad Annibynnol ar ddydd Iau 29 Hydref 2020.
Rhannwyd ein cyngor gyda'r Gweinidog ar 16 Hydref i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu yn 2021.
Mae ein cyngor i'r Gweinidog yn cynnig atebion pragmatig sy'n:
- tynnu sylw at bwysigrwydd asesu allanol er mwyn diogelu gwrthrychedd
- cydbwyso hyn â hyblygrwydd cynyddol i ysgolion a cholegau
- lleihau'r llwyth gwaith i athrawon ac felly gwneud y mwyaf o'r amser sydd ar gael ar gyfer addysgu a dysgu
- cynnal tegwch i ddysgwyr a diogelu eu lles
Ar ôl clywed gan randdeiliaid o bob rhan o Gymru, rydym yn cydnabod yr angen am eglurder ac rydym yn cynnig tir canol rhwng graddau asesu canolfannau ac arholiadau. Rydym wedi edrych ar bob math o gymhwyster ac wedi gwneud argymhellion ar wahân ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi ei phenderfyniad ar 10 Tachwedd.