Grŵp Cynghori i Ddysgwyr
Mae ein Grŵp Cynghori i Ddysgwyr newydd gyda 18 aelod wedi'i sefydlu i helpu i ddylanwadu ar gymwysterau yn y dyfodol.
Mae ein haelodau yn grŵp ysbrydoledig o bobl ifanc sydd ag ystod amrywiol ac eang o brofiadau. Mae sefydlu'r grŵp yn gyfle i Gymwysterau Cymru sgwrsio'n uniongyrchol â dysgwyr ac am ddeialog ddwy ffordd ar y cymwysterau a gynigir a dylanwadau.
NEWYDDION DIWEDDARAF
Cynhaliwyd ein cyfarfod Croeso cyntaf ddydd Mawrth, 13 Ebrill, a roddodd gyfle inni gyflwyno ein hunain a gosod rhai amcanion ar gyfer dyfodol y grŵp. Darperir rhagor o wybodaeth am waith y grŵp, ein gwerthoedd a'n hamcanion yn ystod yr wythnosau nesaf.
Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 20 Ebrill 2021, a bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal ym mis Mehefin a mis Hydref.