Haf 2018
Cofrestriadau ar gyfer arholiadau
Rydym wedi cyhoeddi data dros dro ar nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch yr haf hwn. Mae’r ffeithluniau canlynol yn amlygu rhai o’r prif bwyntiau.
Gallwch weld crynodeb manylach o’r data yn ein hadran cyhoeddiadau, yma, lle gallwch hefyd lawrlwytho’r adroddiad ystadegol llawn.
![]() |
![]() |
![]() |
Llythyr i ysgolion
Dyma'r llythyr yn amlinellu ein dull rheoleiddio ar gyfer dyfarnu arholiadau haf 2018.
Erthyglau Ffocws
Rydym wrthi’n cyhoeddi cyfres o erthyglau ar gymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch newydd, yn ogystal â'r Fagloriaeth Cymru newydd ar gyfer CA4 a Lefel Uwch, Jo Richards (gweler y dolenni isod). Bydd y gyfres yn cynnwys crynodeb o'r newidiadau allweddol i'r cymwysterau newydd a'r hyn y gallent ei olygu i ganlyniadau ym mis Awst, ynghyd ag erthyglau â thema sy'n bwriadu gwella dealltwriaeth o'r broses ddyfarnu.
Blogiau
Mae gennym gyfres o erthyglau am gyfres arholiadau’r haf hwn.
- Mae Jo Richards, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio, yn edrych ymlaen at ganlyniadau eleni.
- Mae ein Cyfarwyddwr Cyswllt, Emyr George, yn esbonio sut rydym yn sicrhau bod y system arholiadau yng Nghymru’n addas at ei diben.
- Mae Tom Anderson, ein Pennaeth Ymchwil, yn esbonio pam mae nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch yn lleihau yng Nghymru eleni.