Grant Cymorth i’r Gymraeg Cystadleuol
Amserlen ar gyfer y Grant Cymorth i’r Gymraeg Cystadleuol
Cyfnod(au) Hawlio –
Bydd Cymwysterau Cymru’n cytuno ar gyfnodau hawlio ar sail yr amserlen a dderbynnir gan y corf dyfarnu yn ystod y broses ymgeisio. Anogir hawlwyr i gyflwyno hawliadau trwy gydol y flwyddyn ariannol.
Ein blaenoriaeth gyffredinol ar gyfer y Grant Cymorth i’r Gymraeg Cystadleuol yw cefnogi cymwysterau a gynlluniwyd:
- i'w defnyddio gan ddysgwyr 14-19 oed ar raglenni dysgu llawn amser sydd wedi’u hariannu a/neu
- i'w defnyddio ar brentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus.
Rydyn ni’n rhagweld y byddwn yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ar gael ar gyfer cymwysterau sy'n dod o dan y flaenoriaeth gyffredinol hon. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn dod o dan y flaenoriaeth hon.
Yn ein barn ni, mae'n well sicrhau bod cymwysterau ar gael i ddysgwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r adeg y cânt eu haddysgu gyntaf. Mae'r dull hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd canolfannau yng Nghymru yn cael eu hannog i fabwysiadu cymwysterau newydd ac i roi cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr o'r cychwyn cyntaf. O fewn y Flaenoriaeth Gyffredinol, byddwn felly yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i geisiadau yn y drefn ganlynol:
- Categori 1: Cymwysterau newydd sydd wedi'u cynllunio i'w haddysgu gyntaf (gall y rhain ddisodli'r cymwysterau presennol neu beidio).
- Categori 2: Cymwysterau sy'n cael eu diweddaru.
- Categori 3: Cymwysterau sydd wedi cael eu diweddaru neu eu hadolygu'n ddiweddar a chanddynt ddyddiad gorffen gweithredol ar ôl Awst 2023 (neu y bydd y corff dyfarnu yn gwneud cais at y diben hwnnw ar eu cyfer).
- Categori 4: Cymwysterau hŷn a/neu gymwysterau sy’n tynnu tua therfyn eu cylch oes.
Noder: Os yw cyrff dyfarnu am wneud cais am gyllid ar gyfer cymwysterau sy'n perthyn i fwy nag un o’r categorïau uchod, mae arnom angen ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob categori. Rydym hefyd angen cais ar wahân am gymwysterau sydd y tu allan i’r Flaenoriaeth Gyffredinol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio am grantiau, cysylltwch â grantiau@cymwysteraucymru.org.
Llythyr at bob Swyddog Cyfrifol ynghylch y Grant Cymorth i’r Gymraeg
Grant Cymorth i’r Gymraeg:
Pecyn Ymgeisio Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020-21
Cais ar gyfer Grant Cymorth i’r Gymraeg: Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol 2020-21
Cymorth Iaith Gymraeg 2021_Gwybodaeth Ychwanegol