Monitro cymwysterau galwedigaethol
Rydym yn monitro cymwysterau galwedigaethol yn ofalus ac yn canolbwyntio ar gymwysterau a grwpiau o gymwysterau na chânt eu targedu gan yr adolygiadau sector.
O ganlyniad i nifer ac amrywiaeth y cymwysterau galwedigaethol a gynigir yng Nghymru, a nifer y cyrff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, awn ati i fonitro cymwysterau galwedigaethol mewn ffordd gymesur sydd wedi'i thargedu. Byddwn yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu pa gymwysterau i'w monitro. Rydym yn canolbwyntio ar fonitro cymwysterau sy'n bodloni un neu fwy o'r disgrifiadau canlynol:
- Yn gymwys i gael eu hariannu'n gyhoeddus
- Lefelau cofrestru ac ardystio cymharol uchel
- Heb eu targedu gan adolygiadau sector
- Yn asesu meysydd gwaith lle mae diogelwch yn hanfodol
- Yn bodloni gofyniad i ymarfer neu drwydded i ymarfer
Wedi'u cwblhau
- Cymorth Cyntaf
- Diogelwch Bwyd
- Iechyd a Diogelwch
Yn ystod pob gweithgarwch monitro rydym yn cymharu ac yn cyferbynnu gwybodaeth a thystiolaeth o wahanol gyrff dyfarnu ac yn canolbwyntio ar y canlynol:
- y safonau asesu a bennir gan gyrff dyfarnu
- eu prosesau sicrhau ansawdd allanol
- y canllawiau maent yn eu rhoi i ddarparwyr dysgu
Rydym hefyd yn casglu adborth gan ddysgwyr, canolfannau a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Lluniwn adroddiad ar ein canfyddiadau ac, os byddwn yn nodi diffygion yn achos cyrff dyfarnu unigol, byddwn yn ysgrifennu atynt er mwyn nodi ein pryderon a gofyn iddynt weithredu'n unol â'n polisi 'Cymryd camau pan aiff pethau o chwith'.