Cosbau a Gorfodi
Byddwn yn defnyddio cosbau a chamau gorfodi lle y bo angen er mwyn diogelu buddiannau dysgwyr, ond fel arfer byddwn yn ceisio canfod ffyrdd eraill o ddatrys problemau cyn cymryd y camau hyn.
Mae ein polisi 'Cymryd Camau Pan Aiff Pethau o Chwith' ar gael isod. Eglura:
- y camau y gallwn eu cymryd er mwyn atal y broblem rhag digwydd eto ac er mwyn unioni'r sefyllfa;
- ffactorau y gwnawn eu hystyried wrth benderfynu pa gamau i'w cymryd.
Mae ein 'Polisi Apeliadau Rheoleiddiol' ar gael isod. Eglura sut y gall unrhyw un yr effeithiwyd arno gan benderfyniadau rheoleiddio penodol a wnaed gan Cymwysterau Cymru apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Camau Rheoleiddiol
Ceir rhestr o gamau rheoleiddiol diweddar yma.
Tribiwnlys Haen Gyntaf
Os byddwn yn rhoi Hysbysiad Cosb Ariannol neu Hysbysiad Adennill Costau i gorff dyfarnu cydnabyddedig, gall y corff dyfarnu hwnnw apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Mae gwybodaeth am Siambr Reoleiddio Gyffredinol y Tribiwnlys Haen Gyntaf i'w gweld isod, sy'n cynnwys dolen i adran ar gyrff dyfarnu.