Cymwysterau Cymru: Cyflwyniadau Data
O’r flwyddyn academaidd 2017/18 ymlaen, mae'r cyfrifoldeb am gyhoeddi ystadegau swyddogol ar gyfer cymwysterau cyffredinol (GQ) a galwedigaethol (VQ) yng Nghymru wedi trosglwyddo o Ofqual i Cymwysterau Cymru.
Er mwyn cynhyrchu’r ystadegau swyddogol yma, rydym yn casglu ystod eang o ddata am gymwysterau rheoledig gan ein cyrff dyfarnu cydnabyddedig.
Amserlen Gofnodi
Mae ein Hamserlen Gofnodi ar Gymwysterau yn darparu amserlen o'r holl gasgliadau a'u dyddiadau adrodd.
Amserlen cofnodi cymwysterau 2020-21
Cyflwyniadau Data
Dylid cyflwyno templedi casglu data i ni gan ddefnyddio ein tudalen casglu data ar QiW. Mae dogfennau canllaw QiW yn rhoi rhagor o wybodaeth am y broses gasglu. Mae'r templedi ar gyfer darparu'r data ar gael i'w lawrlwytho o QiW. Rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â'r holl gymwysterau a reoleiddir gennym ni a gymerir gan ddysgwyr yng Nghymru. Felly, dylai'r data a gyflwynir inni gynnwys yr holl gymwysterau perthnasol a gynigir.
Cymwysterau Cyffredinol
Rydym yn casglu amrywiaeth o ddata sy'n ymwneud â chymwysterau cyffredinol rheoledig trwy sawl templed data gwahanol. Gellir gweld canllawiau ar gyfer pob templed isod, ynghyd â chanllawiau cyffredinol ar gyfer cyflwyno ffeiliau data GQ ar QiW:
- Apeliadau
- E-asesu
- Cofrestriadau yn ôl grŵp blwyddyn
- Cofrestriadau, cofrestriadau hwyr a dyfarniadau
- Canlyniadau Dysgwyr
- Camarfer
- Papurau wedi'u haddasu
- Nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll arholiadau
- Marcio ar-lein v traddodiadol
- Adolygiadau o Farcio a Chymedroli (DR1)
- Adolygiadau o Farcio a Chymedroli (DR2)
- Ystyriaeth arbennig
- Cyflwyno ffeiliau casglu data ar QiW
Yn dilyn ein hymgynghoriad ar ddyluniad templedi casglu data a’r amserlen ar gyfer casglu data yng Nghymru, gwnaethom y penderfyniad i gysoni ein templedi yn agos â thempledi Ofqual a chyfateb i amserlen gasglu Ofqual lle bo modd. Ers gwneud y penderfyniad yma, mae Ofqual wedi cyflwyno rhai templedi newydd a gwneud newidiadau i dempledi presennol. Mae ein Bwrdd Rheoleiddio wedi adolygu'r newidiadau hyn ac wedi ystyried a fyddwn yn gweithredu'r un newidiadau ai peidio, ac wedi dod i'r casgliadau canlynol:
- Uno DR1 a DR2 yn un casgliad Adolygiad Marcio a Chymedroli - Ni fyddwn yn gweithredu'r newid hwn ar hyn o bryd a byddwn yn cadw'r templedi DR1 a DR2 ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20. Byddwn yn adolygu'r penderfyniad hwn cyn blwyddyn academaidd 2020/21.
- Uno E-asesiad ac Errata - Ni fyddwn yn gweithredu'r newid hwn ar hyn o bryd. Byddwn yn cadw'r templed E-asesu presennol ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20. Ar hyn o bryd nid ydym yn casglu data ar Errata fel rhan o'n hamserlen casglu data. Byddwn yn adolygu'r penderfyniad hwn cyn blwyddyn academaidd 2020/21.
- Codau manyleb – Ni fyddwn yn casglu'r data hwn fel rhan o'n hamserlen casglu data ond byddwn yn cysylltu â chyrff dyfarnu ac Ofqual i gasglu'r data hwn trwy ddulliau eraill.
- Cwynion - Ni fyddwn yn gweithredu'r casgliad hwn ar hyn o bryd, ond mae’n bosibl y gwnawn yn y dyfodol.
- Amserlen arholiadau – Ni fyddwn yn gweithredu’r casgliad hwn ar hyn o bryd, ond mae’n bosibl y gwnawn yn y dyfodol.
Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau Eraill
Ar hyn o bryd rydym yn casglu data cofrestru ac ardystio chwarterol ar gyfer cymwysterau rheoledig galwedigaethol a chymwysterau eraill yng Nghymru. Mae templedi wedi'u poblogi ymlaen llaw ar gyfer y casgliad hwn ar gael i'w lawrlwytho o QiW unwaith y bydd pob pwynt cyflwyno yn agor. Mae dogfennau canllaw ar gyfer y casgliad chwarterol hwn i'w gweld isod:
- Cyflwyno ffeiliau casglu data ar QiW
- Casglu Data Chwarterol Galwedigaethol
- Cyflwyno ffeiliau casglu data Chwarterol Galwedigaethol (Math 1) gyda rhifau QW/QUI
Diogelwch a llywodraethu data
Mae ein Polisi Diogelu Data mewnol yn amlinellu gwybodaeth am ein protocolau gwybodaeth a diogelwch. Mae'r manylion a gynhwysir yn y polisi yn cynnwys:
- Egwyddorion a diffiniadau GDPR
- rhestr ddata bersonol, categoreiddio, cadw a throsglwyddo data
- cywirdeb
- hysbysiadau a hawliau preifatrwydd
- diogelwch data
- cyfrifoldebau
- hyfforddiant
- hysbysiad o doriadau data personol.
Os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol am ein polisi a'n protocolau, cysylltwch â ni ar dataproject@qualificationswales.org