Cyfle unigryw i drawsnewid y ffordd y mae ein plant yn dysgu

Gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru 

Erbyn hyn bydd y rheini ohonom sy’n darllen blogiau ac erthyglau ym maes addysg wedi darllen llawer iawn o gyfeiriadau at y cwricwlwm newydd a'n gobeithion ein hunain ar gyfer dyfodol addysg Cymru.  

Ac mae rheswm am hynny - dyma gyfle unigryw i drawsnewid y ffordd y mae ein plant yn dysgu a thyfu yn yr ysgol - o ran eu profiad o bynciau traddodiadol a'r ymdrech gynyddol i feithrin dinasyddion gweithgar a chyflawn wrth iddynt droi yn oedolion. 

Mae gennyf fy ngobeithion a'm dymuniadau fy hun o ran sut y dylai ein system addysg edrych; dyma rai ohonynt: 

Mae hawliau plant yn hollbwysig 

Rwy'n falch bod cymaint o ysgolion ledled Cymru yn gwneud gwaith da iawn o ran galluogi plant i ddysgu am eu hawliau. Dyma beth yw fy rôl i fel Comisiynydd Plant yn ei hanfod: hyrwyddo a diogelu hawliau plant a helpu teuluoedd unigol nad ydynt yn teimlo bod hawliau eu plentyn wedi cael eu hamddiffyn gan sefydliadau cyhoeddus. 

Ond un o'm prif alwadau ar y cwricwlwm newydd fu mynd â hyn gam ymhellach. Yr wyf am i'r Llywodraeth, drwy'r ddeddfwriaeth newydd a fydd yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd, osod dyletswydd ar ysgolion nid yn unig i ddysgu plant am eu hawliau ond i gefnogi hawliau plant ym mhob peth a wnânt. 

Mae dysgu plant am eu hawliau yn hynod o bwysig ond mae hefyd yn hanfodol bod plant yn profi eu hawliau dynol mewn ysgolion, drwy'r ffordd y mae plant yn cael eu trin bob dydd, a thrwy'r ffordd mae polisïau'n cael eu hysgrifennu. Mae hawliau'n cwmpasu pob agwedd ar fywyd ysgol, o bolisïau gwrth-fwlio, ymddygiad a diogelu i gyfranogiad, cydraddoldeb a chynhwysiant. Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i roi sylw dyledus i hawliau eu holl ddysgwyr yw'r unig ffordd o wneud i hyn ddigwydd ledled Cymru. 

Nid ychwanegiad na delfryd penchwiban mo hwn; mae hyn yn ymwneud â sut mae ein plant yn cael eu trin gan yr oedolion yn eu bywydau. Mae rhai ysgolion yn gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn ond nid yw eraill, ac ar hyn o bryd does dim dyletswydd ar ysgolion i gynnal yr hawliau hyn, sy'n golygu y bydd rhai plant yng Nghymru ar eu colled.  

Os ydym o ddifrif am ddinasyddiaeth weithredol, am greu diwylliant mewn ysgolion lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad ac yn ddiogel bob amser, ac am roi cyfle i blant lwyddo yn yr holl obeithion sydd ganddynt, rwy'n gweld hawliau fel rhan sylfaenol o'r nodau hynny. 

Asesiadau sy'n hyrwyddo'r datblygiad a’r lles gorau posibl 

Does dim modd osgoi'r ffaith bod asesiadau'n gallu achosi llawer o straen i blant a phobl ifanc. Y llynedd, pan wnes i arolygu dros 10,000 o blant a phobl ifanc i osod fy mlaenoriaethau fel Comisiynydd, profion oedd pryder mwyaf plant 7-11 oed. O ganlyniad i’r adroddiad, cysylltodd llawer o rieni â ni i rannu profiadau eu plant: roedd rhai plant yn colli cwsg gyda straen; roedd ar rai ofn mynd i'r ysgol; roedd rhai yn gorfforol sâl gyda phryder.  

Nid dyma sut mae ar unrhyw un eisiau gwneud i blant deimlo ac yn sicr, nid dyna fwriad penodedig y profion. Ond ni waeth sut rydym ni'n pecynnu profion, nid yw plant yn dwp ac maen nhw'n gwybod pan mae eu hamgylchedd dysgu yn newid o'u gwersi bob dydd i un lle cânt eu hasesu’n ffurfiol.  

Er y gallai’r asesiadau ar-lein personol newydd ysgafnhau'r pwysau ar rai dysgwyr, credaf fod gwir angen inni ailystyried nodau a dulliau’r broses o brofi ac adrodd ar ganlyniadau mewn ysgolion cynradd a bod yn gwbl sicr ei fod yn cyd-fynd ag amcanion Cymru ar gyfer addysg o dan y cwricwlwm newydd.  

Cyfle i bawb 

Mae gan bob plentyn yr hawl i gyflawni ei lawn botensial ac mae angen i ni sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei gwireddu ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.  Datganwyd y cwricwlwm newydd yn gwricwlwm cynhwysol ond rhaid parhau i ganolbwyntio ar beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, a sut y gall gweithwyr proffesiynol sicrhau cynnydd ystyrlon i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.   

Dylai asesu fod yn gyson â dull sy’n ystyried hawliau plant sy'n hyrwyddo lles ac sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu hunan-barch.  Mae cyfran sylweddol o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn methu yn y system gymwysterau bresennol ac maent yn gallu colli cymhelliant cyn yr arholiadau: ychydig iawn o bobl ifanc sy'n teimlo eu bod wedi'u hysgogi gan radd darged o F. Yn aml, ni chynigiwyd dewis amgen ystyrlon i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol heb ennill cymwysterau TGAU. Dylai cymwysterau sydd wedi'u hail-ddatblygu sicrhau nad yw pobl ifanc yn colli cymhelliant, ac y bydd eu dysgu a'u cynnydd yn cael eu gwerthfawrogi.   

Plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn weithredol 

Wrth inni symud ymlaen gydag addysg yng Nghymru, fy uchelgais yw peidio â chael plant a phobl ifanc i brofi eu blynyddoedd ysgol yn oddefol, ond i chwarae rhan werthfawr wrth lunio'r addysg a gânt, ac yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. 

Ar gyfer dysgu, mae hyn yn golygu cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o lunio cynnwys eu gwersi, a lle bo’n bosibl, y ffordd y cânt eu hasesu.  

Yn fwy cyffredinol, y bwriad yw sicrhau bod eu bywyd ysgol wedi rhoi’r amrywiaeth eang o brofiadau y mae ar bobl ifanc eu hangen i deimlo'n hyderus y gallant ragori yn y byd wrth iddynt droi’n oedolion. Rhan fawr o hyn yw gwybod bod ganddynt hawl i herio, i ddylanwadu, ac i gymryd y llyw yn eu bywydau eu hunain. Mae gennym gyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau ein bod yn gosod y sylfeini pwysig hyn.