Dod o hyd i atebion i'r cwestiynau mawr

David Jones OBE DL yw Cadeirydd newydd y rheoleiddiwr annibynnol Cymwysterau Cymru a Phrif Weithredwr un o brif ddarparwyr addysg y DU, Coleg Cambria. Gan fod hinsawdd addysgiadol Cymru yn newid ac yn gwahodd cwestiynau a thrafodaeth newydd, mae’n rhannu ei syniadau ynghylch y rôl newydd.

David Jones, CadeiryddCymwysterau Cymru 

Mae’n debyg bod pencadlys Cymwysterau Cymru, y tu allan i Gasnewydd unwaith yn stiwdio ble’r arferai Doctor Who gael ei ffilmio. Mae’r TARDIS enwog oedd yn teithio drwy amser wedi hen ddiflannu oddi yno, ond mae’r ffocws ar y dyfodol yn parhau  

Ychydig wythnosau yn ôl, derbyniais Gadeiryddiaeth Cymwysterau Cymru gan ddilyn Ann Evans oedd wedi llywio’r rheoleiddiwr annibynnol yn fedrus yn ystod ei bedair blynedd gyntaf. Mae’n sefydliad ifanc, dynamig sydd ag uchelgais o wneud gwir wahaniaeth er mwyn bod o fudd i Gymru. Ymunais i o’r byd addysg a busnes ehangach, ac roeddwn i wedi edmygu dull arloesol a llwyddiannau trawiadol y sefydliad am amser maith cyn cael fy mhenodi’n Gadeirydd. 

Mae rhai pobl yn gyfarwydd â gwaith a chylch gwaith Cymwysterau Cymru ac eraill yn llai cyfarwydd. Cafodd ei sefydlu o dan ddeddfwriaeth fel ymateb i Adolygiad Cymwysterau Llywodraeth Cymru, oedd wedi cael ei arwain yn fedrus gan fy nghyn-gydweithiwr Addysg Bellach Huw Evans, fu farw yn ystod yr haf, yn anffodus. Arweiniodd yr Adolygiad at Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Cafodd ei dylunio i fod yn fwriadol annibynnol o’r llywodraeth, osgoi dylanwad gwleidyddol gormodol, a’i nod ers y cychwyn yw diogelu dysgwyr a hybu hyder cyhoeddus. 

Beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd? Y sail yw rheoleiddio, sy’n cadw llygad barcud ar degwch a safonau cymwysterau yn ogystal â gwirio’r ffordd mae’r system yn gweithredu. Mae hynny’n golygu pan fo dysgwyr ledled Cymru yn sefyll arholiad ac yn derbyn eu canlyniadau, eu bod nhw’n gwneud hynny mewn system ble mae pawb yn cael eu trin yr un fath. Mae rheoleiddion gywir yn bwysig iawn, nid yn unig i ddysgwyr a’r bobl sy’n annwyl iddyn nhw ond hefyd i’r bobl sy’n buddsoddi amser yn eu haddysgu neu eu hyfforddi nhw yn ogystal â’r rheiny sy’n parhau i’w haddysgu neu eu cyflogi nhw yn y dyfodol. Mae’r rhain i gyd yn chwarae rhan dyngedfennol mewn system symbiotig. 

I mi, un o agweddau mwyaf diddorol Cymwysterau Cymru yw sut mae’n gallu defnyddio ei bwerau unigryw i ddiwygio a gwella’r hyn mae’n ei gynnig. Os nad yw cyfres o gymwysterau sydd ar gael yn cwrdd ag anghenion dysgwyr yng Nghymru, yna gellir comisiynu a chyflwyno cyfres well yn lle. Caiff ei wneud mewn cystadleuaeth deg ag agored rhwng cyrff dyfarnu ac mae’n ffordd effeithiol o ail-lunio a diwygio. O’i ddefnyddio’n gyfrifol ac yn bragmatig, gall y pŵer i ddiwygio wneud gwir wahaniaeth i bobl yng Nghymru a sut y gallan nhw ddefnyddio eu haddysg a’u cymwysterau er mwyn effeithio’n bositif ar eu cymunedau a’u cyflogwyr 

Y prawf cyntaf o hyn oedd diwygio cymwysterau’r sector iechyd a gofal cymdeithasolgweithlu hynod bwysig sy’n effeithio ar fywydau pawb bron mewn rhyw ffordd. Pan gynhaliodd Cymwysterau Cymru’r adolygiad cyntaf hwn, canfyddwyd bod dros 240 cymhwyster gwahanol ac nad oedd pob un yn berthnasol i gyd-destun datganoledig Cymru. Canfyddwyd bod dyblygu ac, mae’n deg dweud, peth penbleth. Felly, cymerodd y cynnig trwsgl hwnnw a’i ailddiffinio. Yn y dyfodol bydd tua 10% o’r hen rif hwnnwcyfres lai, drefnus o gymwysterau mwy perthnasol fydd yn helpu dysgwyr ddilyn llwybr mwy eglur. 

Yn fuan ar ôl hynny daeth adolygiad o adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, ac yna technoleg ddigidol. Ar y gweill, mae adolygiadau o beirianneg, gweithgynhyrchu ac ynni uwch yn ogystal â thwristiaeth a lletygarwch. Yn amlwg, mae pob sector yn unigryw, felly nid oes un ateb sy’n addas i bawb wrth ddiwygio. 

Efallai mai’r gwaith mwyaf uchelgeisiol fydd diwygio cymwysterau er mwyn cyd-fynd â Chwricwlwm newydd Cymru. Er na chaiff unrhyw gymwysterau fydd yn cael eu diwygio ar gyfer hyn eu dysgu tan 2025, gydag arholiadau yn 2027, nawr yw’r amser i feddwl am y posibiliadau. Yn ddi-os, mae’n rhaid newid y cymwysterau sy’n cael eu cymryd yn 16 oed, ond y cwestiwn yw – faint?  

Mae nifer o gwestiynau i’w gofyn a mewnbwn eraill fydd yr allwedd i ddod o hyd i’r atebion cywir ar gyfer y dyfodol. Mae’r cyntaf o gyfres o ymgynghoriadau yn dechrau’r hydref hwn, o’r enw Cymwys ar gyfer y Dyfodol, a bydd rhagor yn dilyn yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd yn ystyried syniadau gan randdeiliaid ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y cynnig yn gywir ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Yn y pen draw, y weledigaeth yw bod pobl ifanc 16 oed yn cymryd cymwysterau sy’n cael eu parchu’n fyd-eang, sy’n ysbrydoli ac yn eu paratoi nhw ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.  

Nid yn unig fel rheoleiddiwr mae’n bwysig inni greu’r amodau i ddysgwyr Cymru ffynnu. Mae’n hanfodol er mwyn datgelu’r doniau, gwybodaeth a sgiliau trawiadol sydd gan ein gwlad i’w cynnig. Mae’r rheiny ohonon ni sy’n ddigon lwcus i weithio mewn addysg yn gweld droson ni ein hunain faint sydd gan ein pobl ni i’w gynnig, gan gynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu yn ein hysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant a’r holl athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr ymroddedig sy’n meithrin eu potensial nhw.  

Mae Cymru’n fach ac yn unigryw. Fel cenedl uchelgeisiol, mae’n rhaid inni gydweithio mewn addysg, llywodraeth a diwydiant i greu gwell cyfleoedd i’n dysgwyr ni ac atgyfnerthu Cymru fel gwlad sy’n gallu cystadlu yn fyd-eang.   

Rydyn ni’n gwybod bod gwireddu ein huchelgeisiau’n gofyn am waith tîm. Felly wrth i Gymwysterau Cymru symud ymlaen at heriau hyd yn oed mwy, byddwn ni’n parhau i wthio ffiniau. Ond byddwn ni hefyd yn sicrhau ein bod ni’n parhau i wahodd pobl i ymuno â ni ar y daith wrth inni weithio tuag at amcanion cyffredin. 

Rydyn ni’n anelu’n uchel, yn benderfynol o barhau i greu gwir newid. Ac rydyn ni’n mynd i adeiladu’r dyfodol hwn heb gymorth sgriwdreifar sonig Doctor Who.