Sut dylid dehongli newidiadau i ganlyniadau arholiadau ysgol?

Pan fydd y canlyniadau TGAU diweddaraf yn uwch neu’n is mewn ysgol nag oeddent y flwyddyn flaenorol, mae’n naturiol gofyn pam.

 Gan Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau 

Mae tystiolaeth ymchwil yn awgrymu y dylem fod yn ofalus iawn ynghylch sut yr ydym yn dehongli’r newidiadau hyn, yn arbennig wrth farnu ansawdd ysgol.   

Un rheswm amlwg dros hyn yw bod canlyniadau arholiadau’n cynrychioli perfformiad dysgwyr. Wrth farnu ansawdd ysgol trwy berfformiad dysgwyr, mae’n hanfodol cydnabod y gall ysgol ond ddylanwadu (yn hytrach na phennu’n llwyr) pa mor dda y mae dysgwyr yn perfformio.  

Mae tystiolaeth ymchwil yn awgrymu’n gyson fod cyfraniad ysgolion i ba mor dda y mae dysgwyr yn perfformio lawer yn llai na chyfraniad y dysgwyr eu hunain. Er enghraifft, dangosodd ymchwil diweddar gan Sefydliad Nuffield  fod ffactorau mewn ysgolion yn esbonio llai na 10% o’r gwahaniaethau mewn canlyniadau arholiad mewn ysgolion. Maen nhw hefyd yn awgrymu bod y cyfraniad hwn wedi aros yn gymharol gyson dros amser.  

Nid yw hyn yn awgrymu diffyg medrusrwydd nac ymdrech gan ysgolion. Mae perfformiad dysgwr yn cael ei yrru, i raddau helaeth, gan ei allu ei hun a gan lefel ei ymdrech (yn ogystal â’r bobl o’i amgylch fel ei rieni a’i gyfoedion.)   

Felly, er mwyn meddwl am yr hyn sy’n arwain at y newidiadau mewn canlyniadau arholiad mewn ysgolion, gallwn ysgrifennu hafaliad syml:  

Newidiadau mewn canlyniadau arholiadau ysgol = dysgwyr + ysgol + ffactorau eraill  

Mewn perthynas â’r elfen ‘dysgwyr’ yn yr hafaliad hwn, byddai’n rhesymol i feddwl fod nodweddion, gallu a brwdfrydedd dysgwyr mewn ysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Trwy waith caled, gall pob dysgwr ennill sgiliau a gwybodaeth newydd felly gall medrusrwydd dysgwr unigol newid dros amser. Gall medrusrwydd cyffredinol grwpiau blwyddyn mewn ysgolion yn ystod y cyfnod y byddant yn sefyll eu harholiadau amrywio o flwyddyn i flwyddyn. 

Mae’r enghraifft hon hefyd yn dangos y gall yr elfennau gwahanol yn ein hafaliad ryngweithio (yn yr achos hwn, gall rhywbeth ynghylch yr ysgol newid y dysgwr.)   

Mae ffactorau eraill yn effeithio ar ganlyniadau arholiadau, er enghraifft, gall digwyddiad cyn arholiad gael effaith ar berfformiad dysgwr. Er enghraifft, gallai:   

  • Dysgwr wahanu oddi wrth ei bartner, y noson cyn yr arholiad. Mae’r dysgwr yn ddigalon iawn ac ni all roi ei sylw yn llwyr i’r arholiad. Mae ei berfformiad, o ganlyniad yn waeth na’r disgwyl.  
  • Nid yw dysgwr wedi adolygu’r holl ddeunydd allai fod ar ei bapur arholiad mathemateg. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnos cyn yr arholiad, mae wedi penderfynu treulio llawer o’i amser yn adolygu hafaliadau quadratic. Heb iddo wybod hynny, mae’r bwrdd arholi wedi cynnwys cwestiwn ar hafaliadau quadratic sydd werth llawer iawn o farciau. Mae’r dysgwr yn cael yr uchafswm marciau. 

Mae digwyddiadau tebyg y tu hwnt i reolaeth yr ysgol ond gallant gael effaith ar berfformiad y dysgwr ac ar newidiadau i ganlyniadau arholiad yr ysgol.  

Mae hyn yn digwydd yn rhannol gan fod y nifer o ddysgwyr mewn ysgol uwchradd (‘maint y sampl’) yn gymharol fach o’i gymharu â’r darlun cenedlaethol, dyweder. Yn 2018, roedd gan ysgol uwchradd gyffredin yng Nghymru oddeutu 125 o fyfyrwyr ym Mlwyddyn 11, o’i gymharu â 30,000 o fyfyrwyr Blwyddyn 11 ymhob ysgol uwchradd ar lefel genedlaethol. Mae maint y sampl ar lefel genedlaethol oddeutu 240 gwaith yn fwy nac ydyw ar lefel ysgol. Mae damcaniaeth ystadegol yn awgrymu y bydd llawer mwy o amrywiaeth (neu newid) mewn canlyniadau arholiad o flwyddyn i flwyddyn mewn grwpiau bychan o ddysgwyr nac mewn grwpiau mawr o ddysgwyr. Mae hyn, yn rhannol am fod effeithiau rhai o’r digwyddiadau y nodwyd ar berfformiad yn cael eu diddymu mewn grwpiau bychan yn yr un modd ag y maent yn gwneud ar lefel genedlaethol. Mae hefyd oherwydd bod y ffactorau dynol – agweddau ac ymddygiadau athrawon a dysgwyr – yn gallu cael effaith fawr ar berfformiad ar lefel ysgol.  

Gallwn ddechrau gweld, gan ddefnyddio’r hafaliad syml hwn, y risgiau sy’n perthyn i farnu ansawdd ysgol, ar sail newid yn y canlyniadau ers y flwyddyn flaenorol yn unig. Rydym yn gwybod i rai ysgolion weld gostyngiad yn eu canlyniadau rhwng 2017 a 2018. Ar gyfer rhai o’r ysgolion hynny, gallai elfen yr ysgol yn yr hafaliad fod wedi cynyddu (a fyddai’n dystiolaeth o welliant yn yr ysgol.) Fodd bynnag, gallai hyn fod wedi cael ei ddiddymu gan ostyngiadau yn elfen y disgybl neu gan ffactorau eraill. Os byddem felly yn dod i’r casgliad o’r dirywiad mewn canlyniadau fod ansawdd yr ysgol wedi gostwng, byddem yn bod yn annheg â’r ysgol a gallai hynny gael effaith andwyol (er enghraifft ar forâl athrawon.) 

Mae cymaint o amrywiaethau allai effeithio ar ganlyniadau ar lefel ysgol ac nid yw’n syndod y gall canlyniadau fod mor wahanol o flwyddyn i flwyddyn. Weithiau, gall y newidiadau hyn fod yn sylweddol. Nid yw edrych ar ganlyniadau mewn ysgol o flwyddyn i flwyddyn yn gymorth i ni ddeall pa gyfraniad y mae’r ysgol wedi ei gwneud i’r newid hwnnw.  

Os ydym felly am fod mor deg â phosib wrth ddehongli perfformiad trwy ddefnyddio canlyniadau arholiadau, mae’n rhaid i ni ystyried yr holl ffactorau sy’n dylanwadu ar y canlyniadau hynny. Gallai hyn olygu defnyddio ystadegau mewn ffordd sydd yn llawer mwy soffistigedig na chymharu canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn. Byddai dulliau amgen yn cynnwys monitro arferion mewn canlyniadau ysgolion dros nifer o flynyddoedd yn hytrach na chanolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng un flwyddyn a’r llall. Gellir hefyd defnyddio ystadegau sydd yn llawer mwy cymhleth er mwyn ceisio esbonio cyfraniad gwahanol ffactorau i’r newidiadau yn y canlyniadau. 

Yn y diwedd, ni all ystadegau’n unig ddarparu darlun cyflawn na chynnig rheswm dros pam fod newidiadau i ganlyniadau ar lefel ysgol. Gellir cael dealltwriaeth well drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth ynghylch yr ysgol a’i dysgwyr. 

Darllen pellach:  

I’r rheini sydd â diddordeb, mae Cambridge Assessment ac Ofqual wedi cyhoeddi ymchwil manwl yn ddiweddar yn darparu rhagor o wybodaeth ar yr hyn sy’n gyrru newidiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ganlyniadau TGAU yn yr ysgol. 

Camau nesaf: 

Byddwn yn cyhoeddi ystadegau arbrofol yr haf hwn yn dangos sut mae canlyniadau cymwysterau’n amrywio ar lefel ysgol yng Nghymru o’u cymharu â’r blynyddoedd cynt. Ni fydd yr ystadegau hyn yn dynodi ysgolion unigol ond byddant yn cynorthwyo ysgolion a defnyddwyr eraill sydd â diddordeb i weld sut mae newidiadaun amrywio mewn ysgolion yng Nghymru ar bob lefel cymhwyster. Rydym yn croesawu adborth ar yr ystadegau hynny.