Hysbysiad Preifatrwydd - Cylchlythyrau a negeseuon
Prif gysylltiadau
Mae'n hanfodol bod rhanddeiliaid allweddol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cymwysterau Cymru, ac felly bydd y cylchlythyr misol yn cael ei anfon yn awtomatig at bob prif gyswllt mewn cyrff dyfarnu, ysgolion a cholegau. Er eglurder, y prif gysylltiadau yw:
- Swyddogion Cyfrifol cyrff dyfarnu cydnabyddedig.
- Penaethiaid ysgolion a cholegau, Penaethiaid Colegau AB, Swyddogion Arholiadau, consortia rhanbarthol.
Sylwch y bydd y cysylltiadau hyn yn derbyn negeseuon e-bost yn awtomatig. Os hoffech ddiweddaru manylion y prif gyswllt, cysylltwch â ni.
Rydym yn anfon cylchlythyrau a negeseuon e-bost rheolaidd at brif gysylltiadau ac yn cadw eu manylion cyswllt ar ein systemau at ddibenion cefnogi ein prif nodau sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.
Ein sail gyfreithlon dros gadw'r wybodaeth hon yw er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac er mwyn arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Gall rhanddeiliaid eraill (e.e. dysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr, addysgwyr, cyflogwyr ac ati) danysgrifio i gylchlythyr Cymwysterau Cymru drwy glicio ar y ddolen ar ein tudalen danysgrifio.
Tanysgrifiadau
Trwy danysgrifio i'n cylchlythyr neu unrhyw restrau postio, rydych yn rhoi caniatâd i ni gadw eich manylion cyswllt at ddibenion anfon y cylchlythyr neu'r rhestr bostio yr ydych wedi tanysgrifio iddi.
Gall y rhai sydd wedi tanysgrifio i'n cylchlythyr neu negeseuon e-bost ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar "dad-danysgrifio" ar waelod yr e-bost.
Defnyddio darparwr trydydd parti
Rydyn ni’n defnyddio darparwr trydydd parti, Click Dimensions, i ddosbarthu ein cylchlythyr. Caiff rhywfaint o wybodaeth ei chasglu gan Click Dimensions ynghylch pryd/os agorwyd yr e-bost a pha ddolenni a gliciwyd. Bydd Cymwysterau Cymru ond yn defnyddio'r wybodaeth hon i asesu llwyddiant y post ac i ymchwilio pan fyddwn wedi cael gwybod nad yw negeseuon e-bost wedi’u derbyn. Dim ond at y dibenion a restrir uchod y caiff ei defnyddio i gefnogi ein prif nodau i asesu ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid. Mae'r data personol a gesglir gan Click Dimensions yn cael ei gadw'n ddiogel gan Cymwysterau Cymru ar ein systemau mewnol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd Click Dimensions.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol sydd gan Cymwysterau Cymru amdanoch
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau
- gofyn i’ch data personol gael ei ddileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu’r prosesu
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn gweler Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o’r fath at:
Y Swyddog Diogelu Data
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth