Hysbysiad preifatrwydd – Cynllun Peilot Cymaroldeb Safonau
Bydd gwybodaeth sy'n nodi unigolion (enw, cyfeiriad e-bost) yn cael ei chasglu drwy'r arolwg hwn.
Diben prosesu yw galluogi cysylltu â chyfranogwyr yn ein Cynllun Peilot Cymaroldeb Safonau. Mae hyn er mwyn cefnogi ein prif nodau, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer cadw'r wybodaeth hon yw ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheolydd y system gymwysterau yng Nghymru ac arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd Data unrhyw ddata personol a gyflwynir yn yr arolwg.
Bydd y data yn cael ei gadw dros dro ar Smart Survey am ddim mwy na 90 diwrnod ar ôl i’r arolwg gau ac yna bydd yn cael ei allforio i systemau Cymwysterau Cymru. Bydd y data wedyn yn cael ei gadw yn ôl ein hamserlen gadw. Gweler hefyd polisi preifatrwydd Smart Survey yma.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben ac eithrio wrth arfer ein tasg gyhoeddus.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, bod yr holl wybodaeth ysgrifenedig sydd gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch chi
- cywiro unrhyw gamgymeriadau
- gael eich data personol wedi'i ddileu
- osod cyfyngiad ar ein gwaith o brosesu eich data
- wrthwynebu prosesu i ofyn i'ch data gael ei gyfri (cludadwyedd data)
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan ICO.
Dylech gyfeirio unrhyw geisiadau o'r fath at:
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad C2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os ydych yn anfodlon â'n hymateb gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF