Hysbysiad Preifatrwydd - Cynnig Ehangach - Ymgysylltu â Dysgwyr
Fel rhan o'r gweithgaredd ymgysylltu â Dysgwyr hwn, byddwn yn cadw rhywfaint o wybodaeth ar eich ffurflenni caniatâd sy'n eich adnabod chi fel eich enw, oedran ac enw eich ysgol, coleg neu ddarparwr addysg ac enw eich rhiant/gofalwr. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i ni gadw cofnodion priodol o'ch caniatâd i gymryd rhan yn y gweithgaredd.
Rydym yn ymgymryd â'r gweithgaredd hwn ac yn cadw'r wybodaeth hon i gefnogi ein prif nodau sef:
- Sicrhau bod cymwysterau, a’r system gymwysterau, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr
- Hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.
Dim ond at y dibenion uchod y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw. Bydd yn cael ei gadw'n ddiogel am 12 mis ar ôl y gweithgaredd.
Rhyddid Gwybodaeth
Fel corff cyhoeddus, sylwer bod yr holl wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol sydd gan Cymwysterau Cymru amdanoch
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau
- gofyn i’ch data personol gael ei ddileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu’r prosesu
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn gweler gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o’r fath at
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745