Hysbysiad Preifatrwydd - Digwyddiadau
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt proffesiynol ar gyfer cyfathrebu yn y dyfodol lle bo angen gwneud hynny i gefnogi ein prif egwyddorion, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru.
Hefyd, gyda’ch cydsyniad, rydym yn cadw unrhyw wybodaeth a roddir gennych am anghenion dietegol neu anghenion mynediad (o dan erthygl 9(2)(a) y GDPR). Ni fyddwn yn cadw'r wybodaeth hon am fwy o amser nag sydd angen ar gyfer cynnal y digwyddiad.
Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw gorff arall oni fydd yn angenrheidiol ar gyfer y dasg gyhoeddus a bod sail gyfreithiol dros wneud hynny.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddir ar gyfer y digwyddiad a gaiff ei hallforio o Eventbrite a'i chadw'n ddiogel ar ein systemau. Noder hefyd y bydd Eventbrite hefyd yn gweithredu fel rheolydd data ar gyfer rhywfaint o wybodaeth bersonol a gyflwynir gan ddefnyddwyr Eventbrite. Cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd Eventbritei gael rhagor o fanylion.
Noder ei bod yn bosibl y byddwn yn tynnu lluniau ac yn gwneud fideos anffurfiol mewn digwyddiadau i'w defnyddio ar ein gwefan a'n sianelau cyfryngau cymdeithasol. Gall y rhain gynnwys cyfranogwyr yn y digwyddiad. Byddwn yn gofyn am ganiatâd cyn recordio person mewn ffordd a fyddai'n dangos pwy ydynt. Rhowch wybod i drefnydd y digwyddiad ar ddechrau'r digwyddiad os nad ydych yn dymuno cael eich cynnwys.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ystyried Deddf Diogelu Data 2018 y DU a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
- gofyn i Cymwysterau Cymru gywiro unrhyw wallau
- gofyn i'ch data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r camau prosesu
- gwneud cais i'ch data gael eu cludo (cludadwyedd data)
Er mwyn dysgu rhagor am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745