Hysbysiad preifatrwydd - Rhanddeiliad
Efallai y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am yr unigolion rydym yn ymgysylltu â nhw drwy amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid (er enghraifft, cysylltiadau mewn Prifysgolion neu â chyflogwyr neu arbenigwyr diwydiant fel rhan o arolwg sector o gymwysterau galwedigaethol).
Gall y wybodaeth hon gynnwys manylion cyswllt a dewis iaith yr unigolyn ynghyd â'u barn ar agweddau ar gymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn cefnogi ein prif nodau, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru.
Ein sail gyfreithlon dros gadw'r wybodaeth hon yw ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac er mwyn gwireddu ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall heblaw wrth gyflawni ein tasg gyhoeddus a byddwn yn cadw eich manylion gyhyd ag y bydd eu hangen ar gyfer y dasg hon ac yn unol â'n hatodlen gadw.
Caiff eich gwybodaeth ei chadw'n ddiogel ar ein systemau TG a dim ond ein cyflogeion fydd yn gallu cael gafael arni.
Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw gorff arall oni fydd yn angenrheidiol ar gyfer y dasg gyhoeddus a bod sail gyfreithiol dros wneud hynny.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod yr holl wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau
- gofyn i'ch data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r camau prosesu
Er mwyn dysgu rhagor am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at y
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF