Hysbysiad preifatrwydd – UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol: Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Efallai y bydd gwybodaeth sy'n nodi unigolion (enw, enw'r sefydliad, cyfeiriad e-bost) yn cael ei chasglu drwy'r arolwg hwn.
Diben prosesu yw casglu gwybodaeth ynghylch canfyddiadau a barn broffesiynol rhanddeiliaid am y cynnwys a'r trefniadau asesu ar gyfer UG/Safon Uwch. Technoleg Ddigidol. Mae hyn er mwyn cefnogi ein prif nodau, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer cadw'r wybodaeth hon yw er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd Data unrhyw ddata personol a gyflwynir yn yr arolwg.
Bydd y data yn cael ei gadw dros dro ar Smart Survey am ddim mwy na 90 diwrnod ar ôl i’r arolwg gau ac yna bydd yn cael ei allforio i systemau Cymwysterau Cymru. Yna bydd y data'n cael ei gadw am 12 mis o gyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol.
Gweler hefyd polisi preifatrwydd Smart Survey yma.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben ac eithrio wrth arfer ein tasg gyhoeddus.
Rhyddid Gwybodaeth
Gan ein bod yn gorff cyhoeddus mae’r holl wybodaeth ysgrifenedig sydd gennym (gan gynnwys ymholiadau ysgrifenedig) yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch chi
- cywiro unrhyw gamgymeriadau
- cael eich data personol wedi'i ddileu
- gosod cyfyngiad ar ein gwaith o brosesu eich data
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan yr ICO.
Gallwch anfon unrhyw geisiadau o'r fath at:
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad C2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os ydych yn anfodlon â'n hymateb gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF