Hysbysiad preifatrwydd – Y broses gydnabod
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni fel rhan o'r broses cydnabod cyrff dyfarnu.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni fel rhan o'r broses cydnabod cyrff dyfarnu.
Rydym yn prosesu’r wybodaeth hon yn unol â GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 y DU o dan y sail gyfreithiol bod angen gwneud hynny er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu i gyflawni swyddogaethau statudol Cymwysterau Cymru mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu.
Caiff y wybodaeth hon ei chasglu er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch eich cais am gydnabyddiaeth, a gellir ei defnyddio i fonitro cydymffurfiaeth â'r Amodau Cydnabod Safonol yn y dyfodol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol tra byddwch yn gorff dyfarnu a gydnabyddir ac ar ôl hynny yn unol â'n hatodlen gadw. Mae dulliau diogelu sefydliadol a thechnolegol priodol ar waith er mwyn sicrhau diogelwch eich data.
Efallai y caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu rhwng rheoleiddwyr yn y DU am y rhesymau canlynol:
- Rydych eisoes wedi cael eich cydnabod gan reoleiddiwr arall yn y DU;
- Rydych wedi gwneud cais i reoleiddwyr eraill yn y DU ar yr un pryd;
- Rydych wedi bod yn aflwyddiannus o'r blaen wrth wneud cais am gydnabyddiaeth gyda rheoleiddwyr eraill yn y DU.
Os na fydd ymgeiswyr yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth personol am 12 mis ar ôl i'r broses gwneud cais ddod i ben. Yna, caiff ei dinistrio a'i dileu.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dylid labelu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif, a chaiff hyn ei ystyried cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth i drydydd parti o dan y 'Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth'.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch;
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau;
- gofyn i'ch data personol gael eu dileu;
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data;
- gwrthwynebu'r camau prosesu.
Er mwyn dysgu rhagor am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at y
Swyddog Diogelu Data
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.